Rhoi cymorth i ddatblygu mentrau cymdeithasol
‘Ystyr menter gymdeithasol yw busnes y mae ei amcanion yn rhai cymdeithasol yn anad dim ac y mae ei wargedion yn cael eu hail-fuddsoddi’n bennaf at y diben hwnnw yn y busnes neu yn y gymuned, yn hytrach na chael eu sbarduno gan yr angen i gynyddu elw i’r eithaf ar gyfer cyfranddalwyr a pherchenogion’ (Strategaeth Mentrau Cymdeithasol Cymru)
Mae Rhaglen Datblygu Economaidd Cymunedol (De Ddwyrain Cymru) yn gynllun grantiau hyblyg sy’n rhoi cymorth i brosiectau mentrau cymdeithasol, ac sydd ar gael ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.
Pwrpas y Rhaglen yw creu cymunedau cynaliadwy a ffyniannus trwy ddatblygu gweithgarwch economaidd cymunedol. Mae’r opsiynau o ran arian grant wedi’u bwriadu i ategu a datblygu cynaliadwyedd yn y trydydd sector. Mae pecyn cymorth ar gael i ddarparu gwasanaeth datblygu busnes sy’n cynnwys mentrau o ran cyngor, arweiniad, mentora, hyfforddiant a datblygu.
Pwy sy’n gymwys?
Mae’r arian grant ar gael i fudiadau cymunedol sy’n creu incwm trwy fasnachu, sydd â strwythur cyfreithiol ac amcanion cymdeithasol.
Pa gymorth sydd ar gael?
Mae cyllid Refeniw a Chyfalaf ar gael yn seiliedig ar hyd at 75% o gostau cymwys prosiectau. Gallai costau cymwys prosiectau gynnwys:
• Prynu offer, tir ac adeiladau
• Adnewyddu adeiladau
• Paratoi cynlluniau busnes, astudiaethau dichonolrwydd a strategaethau marchnata
• Costau staff
• Costau rhedeg prosiectau
Mwy o wybodaeth
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Thîm y Rhaglen Datblygu Economaidd Cymunedol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cafodd y cynllun hwn ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Carly Mc Creesh – Swyddog yr Economi Gymdeithasol
Ffôn: 01656 815323
E-bost: carly.mccreesh@bridgend.gov.uk
Tracey Wood – Swyddog Grantiau a Chyllid yr Economi Gymdeithasol
Ffôn: 01656 815317
E-bost: tracey.wood@bridgend.gov.uk
|