English
Parth Busnes
Yr Uned Datblygu Economaidd
Y Gyfarwyddiaeth Cymunedau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lefel 3
Y Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB
Ffôn: 01656 815322
Ffacs: 01656 815325
Cyflwyniad Llynfi Y Ganolfan Arloesi Tŷ Bryngarw Pafiliwn y Grand Lleoliadau eraill ar gyfer cynadleddau

Canolfan Tre-dŵr, Pen-y-bont ar Ogwr

Ystafell Gynadledda

Tŷ Bryngarw, Brynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr

Lleoliadau ar gyfer cynadleddau

 

Ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fe gewch fod dewis eang o leoliadau ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd a’r rheiny’n addas ar gyfer ystod o gyfarfodydd busnes, digwyddiadau lletygarwch corfforaethol ac adloniant, ynghyd â chyfleusterau llai ar ffurf ystafelloedd bwrdd. Ar gyfer yr achlysur arbennig hwnnw pan eich bod am gynnig lletygarwch corfforaethol, gall y Fwrdeistref gynnig cyfleusterau hamdden a golff ardderchog.

 

Mae dewis eang o westai a lleoliadau ar gyfer cyfarfodydd sy’n cynnig yr offer clyweled diweddaraf gan gynnwys technoleg ddiwifr.

 

Mae’r lleoliadau ar gyfer cynadleddau’n amrywio o adeilad modern Canolfan Tre-dŵr ger ffatri injans Ford i lonyddwch Gwestai Gwledig Parc Bryngarw a Choed-Y-Mwstwr, sydd ill dau â lle eistedd i 170 o westeion.