|

|
|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|
| cc |
|

|
   |
|

|
Y
Comisiwn Brenhinol ar Hen Gofebau a Chofebau Hanesyddol Cymru
|
Mae gan y Comisiwn
Brenhinol, a sefydlwyd gan hawl frenhinol yn 1908, rôl genedlaethol
yn rheoli treftadaeth archeolegol, adeiledig a morol Cymru fel cychwynnydd,
curadur a chyflenwr gwybodaeth awdurdodol ar gyfer penderfynwyr, ymchwilwyr
unigol, corfforedig a llywodraethol a'r cyhoedd yn gyffredinol.
I gyflawni ei rôl,
mae'r Comisiwn Brenhinol yn cydosod gwybodaeth drwy arolygu, cofnodi
a dehongli safleoedd, strwythurau a thirluniau archeolegol a hanesyddol
daearol a morol, yn enwedig y rhai o bwysigrwydd cenedlaethol neu leol
sy'n cael eu bygwth gan ddinistriad.
Ei nod strategol,
sy'n unigryw iddo, yw creu a chynnal archif gynhwysfawr a deinamig ar
ffurf Cofnod Cofebau Cenedlaethol, sy'n cynnwys mynegai i gofnodion
o safleoedd a chofebau rhanbarthol.
Mae'r Comisiwn Brenhinol
yn cyhoeddi cwmpas a chanlyniadau ei ymchwiliadau. Mae cyfrolau diweddar
yn cynnwys astudiaethau pwysig o ddiwydiannau copr a chysylltiedig ardal
Abertawe a chestyll canoloesol diweddarach Morgannwg, yn ogystal â
chyhoeddiadau byrrach ar y gaer-bryn Oes Haearn ym Mhendinas, Aberystwyth
a cheiri Fictoraidd Aber Hafren. Gwneir defnydd ehangach o'r rhyngrwyd
i ledaenu newyddion o weithgareddau'r Comisiwn a chanlyniadau ei ymchwil.
Mae amrywiaeth eang
o sefydliadau'n cymryd mantais o statws pwysig y Comisiwn fel ymgynghorydd
ar arolygu, dehongli, cadw a gwarchod cofebau ac adeiladau hanesyddol.
Mae ei brofiad helaeth a'i staff tra medrus yn ei roi mewn sefyllfa
dda i gyflawni ei ddyletswyddau eraill, sef gosod safonau a darparu
cyfarwyddyd a chyllid i sefydliadau eraill ac unigolion i arolygu, cofnodi
a dehongli tirluniau archeolegol ac adeiladau hanesyddol Cymru.
|

|
   |
|

|
Y
Grwp Sioraidd
|
Mae'r Grwp Sioraidd
yn elusen gofrestredig ac yn gymdeithas amwynderau cenedlaethol statudol.
Bodola i ddiogelu adeiladau, cofebau a pharciau Sioraidd ac annog dealltwriaeth
a gwerthfawrogiad o dreftadaeth Sioraidd. Ymysg cyhoeddiadau'r corff
mae adroddiadau ymgyrchu, canllawiau ar wahanol agweddau adfer tai a
chylchgrawn blynyddol yn canolbwyntio ar hanes pensaernïol y cyfnod.
Trefnir darlithoedd, teithiau cerdded a theithiau eraill i aelodau.
I ymuno â'r Grwp Sioraidd neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â
ni.
|

|
   |
|

|
Y
Gymdeithas Pridd
|
Datganiad cennad
y Gymdeithas Pridd Mae'r Gymdeithas Pridd wedi bod yn ymchwilio a hybu
ffermio organig fel rhywbeth allweddol i amaethyddiaeth gynaliadwy ers
1946 ac mae ei symbol yn adnabyddus iawn erbyn hyn fel gwarant cwsmer
o ansawdd organig.
Defnyddiwyd ein harbenigedd organig ar gyfer datblygu ardystiad
coedwigaeth hefyd. Mae 30,000 aelod a chefnogwr yn cefnogi ein hymgyrch
am ffermio organig a defnydd tir cynaliadwy.
Cynhyrchwn
ddau gyhoeddiad bob tri mis: Living Earth, cylchgrawn i aelodau ac Organic
Farming, y prif bapur ar gyfer cynhyrchwyr organig a ddarllennir mewn
mwy na 30 gwlad.
Gweithgareddau
Mae aelodau a chefnogwyr yn helpu i ariannu ein gweithgareddau
ac maent wrthi'n gweithredu newid yn lleol hefyd
Gwybodaeth ac addysg trwy gyhoeddiadau, taflenni a chylchgronau
Digwyddiadau fel seminarau, teithiau fferm, sioeau ac areithiau
Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill
Dylanwadu ar wneuthurwyr polisi a ffurfwyr barn a'u lobïo
Gwaith cynghorol gyda ffermwyr, gwneuthurwyr, awdurdodau lleol
a grwpiau sydd â diddordeb mewn datblygu economïau bwyd cynaliadwy
Ymgyrchoedd ar feysydd megis peirianneg genetig a defnyddio antibiotigau
mewn ffermio dwys
Egwyddorion organig
Dros yr 50 mlynedd ddiwethaf, mae'r Gymdeithas Pridd wedi chwarae
rôl arweiniol mewn datblygu safonau organig byd-eang. Mae'r Ffederasiwn
Rhyngwladol o Fudiadau Amaeth Organig yn gyfrifol am sicrhau dealltwriaeth
gyffredin ac arfer cynhyrchu bwyd organig.
Safonau organig
Mae'r Gymdeithas Pridd wedi bod yn datblygu safonau ar gyfer
cynhyrchu bwyd organig ers 1972. Roedd y ddogfen safonau gyntaf yn ddatganiad
bras o egwyddorion ac yn oddeutu 10 tudalen. Mae safonau cyfredol yn
dal i ddilyn yr egwyddorion hyn ond mae 110 o dudalennau o arfer gorau.
Rhennir y ddogfen yn adrannau o bethau a argymhellir, a ganiateir, a
gyfyngir ac a waherddir.
|

|
   |
|

|
Ymddiriedolaeth
Adareg Brydeinig
|
Yr Ymddiriedolaeth
Adareg Brydeinig yw prif gorff ymchwil adareg y DU. Ers 1933, mae miloedd
o aelodau a gwirfoddolwyr yr ymddiriedolaeth (BTO) wedi helpu gydag
amryw brosiect a gynlluniwyd i fesur poblogaethau adar ym Mhrydain ac
Iwerddon. Mae'r bartneriaeth hon rhwng gwirfoddolwyr a gwyddonwyr yn
ein pencadlys yn Thetford, Norfolk yn unigryw. Y data a gesglir yn genedlaethol
yw'r unig ddarlun gwir sydd gennym ar gyfer gweld pa mor dda mae ein
hadar yn ei wneud o flwyddyn i flwyddyn.
Mae'r BTO yn cynnal
sawl arolwg, gan gynnwys:
Gwylio Adar Gardd - arolwg cenedlaethol poblogaidd yn cynnwys
cyfrif adar mewn gerddi
Arolwg Adar sy'n Bridio - arolwg cenedlaethol blynyddol o adar
bridio, a ariannwyd ar y cyd gan y BTO a'r JNCC, sef corff gwarchod
cadwraeth y llywodraeth, a'r RSPB
Cynllun Cofnodi Nythod - arolwg poblogaidd sy'n mesur llwyddiant
nythu adar Prydain
Trefnir sawl arolwg
arbennig gan y BTO, rhai ohonynt yn astudiaethau tymor byr yn edrych
ar faterion penodol neu'n cynnal arolygon cenedlaethol ar rywogaeth
benodol fel y crëyr, yr alarch mud a'r hebog tramor.
|

|
   |
|

|
Ymddiriedolaeth
Adeiladau Crefyddol Cymru
|
Gwarchod a hybu
treftadaeth adeiledig grefyddol Cymru.
Pam sefydlwyd
yr Ymddiriedolaeth?
Sefydlwyd
Ymddiriedolaeth Adeiladau Crefyddol Cymru i ymdrin â rhai o'r
problemau difrifol sy'n wynebu ein hetifeddiaeth gyfoethog o adeiladau
crefyddol. Diogelir rhai o'n prif asedau hanesyddol ar gyfer cenedlaethau
i ddod tra bod yr Ymddiriedolaeth yn delio hefyd â'r llu o broblemau
sy'n wynebu'r rhai sy'n gyfrifol am ofalu am dreftadaeth adeiladau crefyddol
Cymru.
Cefndir
Ym mis Mai 1993, argymhellodd Pwyllgor Materion Cymreig Ty'r Cyffredin
sefydlu Cronfa Eglwysi a Chapeli Gwag ar gyfer Cymru. Yn 1994, ffurfiwyd
gweithgor, a noddwyd gan CADW, i arolygu capeli hanesyddol gwag a'u
dyfodol. Argymhellodd yr adroddiad a ddeilliodd o hyn ym mis Medi 1996
sefydlu corff newydd - ymddiriedolaeth elusennol annibynnol - i gadw
capeli hanesyddol pwysig ar gyfer cenedlaethau i ddod a bod yn gorff
cynghorol a ffynhonnell wybodaeth.
Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth
i weithredu argymhellion adroddiad 1996 a darparwyd cyllid ar ei chyfer
gan CADW: Cofebau Hanesyddol Cymru. Derbynia'r Ymddiriedolaeth arian
gan amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys CADW, y Lotri Treftadaeth,
y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol, yr Ymddiriedolaeth Pererinion
a rhoddion eraill.
Amcanion a Nodau
Amcan yr Ymddiriedolaeth yw hybu a symud treftadaeth grefyddol a chysylltiedig
Cymru yn ei blaen drwy:
gaffael adeiladau crefyddol gwag pwysig a sicrhau eu cadwraeth
i'r safonau uchaf.
darparu cyngor a gwybodaeth i'r rhai hynny sy'n berchen neu sy'n
gyfrifol am gapeli ac adeiladau crefyddol eraill ac unrhyw un arall
â diddordeb.
Mae cyfrifoldeb yr Ymddiriedolaeth yn cwmpasu adeiladau o bob alwad
a ffydd, heblaw am yr Eglwys yng Nghymru, sydd â'i chynllun ei
hun ar y cyd â Chyfeillion Eglwysi Heb Gyfeillion a CADW.
Caffael Adeiladau
Ceisia'r Ymddiriedolaeth gaffael nifer gyfyng o adeiladau hanesyddol
gwag, fel perchennog os mai dyna'r gobaith olaf. Arweinir graddfa'r
gweithgareddau gan dri phrif ffactor:
nifer yr adeiladau sy'n cwrdd â meini prawf caffael yr
Ymddiriedolaeth
nifer yr adeiladau a gynigir i'r Ymddiriedolaeth
yr adnoddau a'r cyllid sydd ar gael i'r Ymddiriedolaeth
Yn y lle cyntaf,
rhoddir blaenoriaeth ar ganolbwyntio ar o leiaf un caffaeliad llwyddiannus
a nodi caffaeliadau pellach. Trwsir a chedwir adeiladau a gaffaelir
gan yr Ymddiriedolaeth a byddant ar agor i ymwelwyr ynghyd â rhaglen
o weithgareddau priodol a luniwyd yn unol â math a lleoliad yr
adeilad. Mae cefnogaeth leol yn hanfodol a bydd pwyllgorau lleol neu
grwpiau cefnogi'n cael eu ffurfio.
Ymchwil a Gwybodaeth
Mae llawer o bobl sy'n berchen neu sy'n gyfrifol am adeiladau crefyddol
hanesyddol yng Nghymru angen cyngor, gwybodaeth a chymorth, pa un a
yw'r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel man addoli neu at bwrpasau eraill.
Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth felly i fod yn gorff ymgynghorol a ffynhonnell
o wybodaeth i ddarparu cyngor am gyllido, cynllunio a materion cadwraeth
a defnyddiau newydd posibl ar gyfer adeiladau. Anela'r Ymddiriedolaeth
at ddarparu'r gwasanaeth gwybodaeth drwy ddatblygu a chynhyrchu gwybodaeth,
datblygu cysylltiadau ag asiantaethau a sefydliadau eraill sy'n gweithio
yn y sector hwn, cydweddu ac estyn eu gwaith a bydd hefyd yn ceisio
creu a datblygu rhwydweithiau a rhannu syniadau. Bydd lefel a math y
gwasanaeth a ddarperir yn dibynnu ar yr adnoddau a geir gan yr Ymddiriedolaeth.
|

|
   |
|

|
Ymddiriedolaethau
Bywyd Gwyllt
|
Y bartneriaeth hon
yw prif elusen cadwraeth y DU sy'n hollol ymroddedig i fywyd gwyllt.
Yn gweithio ar lefel genedlaethol a lleol, rydym yn rhwydwaith o 46
elusen bywyd gwyllt annibynnol a mwy na 100 o grwpiau bywyd gwyllt trefol.
Mae gennym aelodaeth o 325,000 oedolyn ac 20,000 plentyn.
Cynllun 10-pwynt
yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt:
Gwybodaeth bioamrywiaeth - casglu a chofnodi data biolegol
Rheoli tir - rheoli mwy na 2,300 gwarchodfa natur yn y DU, yn
cwmpasu rhyw 80,000 hectar, i wella ansawdd y safleoedd hyn ar gyfer
bywyd gwyllt a phobl
Amaethyddiaeth - ymgyrchu dros fwy o anogaeth am ffermio sy'n
gydnaws â bywyd gwyllt. Cynghori a chynorthwyo ffermwyr yn lleol
Dwr a gwlyptir - blaenoriaeth ar gyfer cadw ac adfer gwlyptir,
codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd dwr
Cefnogi bywyd gwyllt - ymgyrchu'n galed ar lefel leol, rhanbarthol,
cenedlaethol a rhyngwladol i ddiogelu bywyd gwyllt
Morol - trwy ein Cyd-Raglen Forol â'r WWF, gweithiwn tuag
at well gadwraeth forol, gan ganolbwyntio ar lygredd, gorbysgota a dal
pysgod diangen
Gwneud bioamrywiaeth yn fwy perthnasol i bobl - cynyddu dealltwriaeth,
gwerthfawrogiad a mwynhad pobl o fywyd gwyllt a chynnwys plant drwy
Wildlife Watch a rhaglenni eraill
Cynefinoedd pwysig - canolbwyntio ymdrechion ar 10 cynefin o
Gynllun Bioamrywiaeth y DU. Ar gyfer pob cynefin, mae'r Ymddiriedolaethau
Bywyd Gwyllt yn sefydlu a gweithredu targedau a chynlluniau gweithredu
Rhywogaethau pwysig - canolbwyntio ar fwy na 28 rhywogaeth rydym
yn bartner arweiniol ar eu cyfer dan Gynllun Bioamrywiaeth y DU
Cynllunio Gweithredu Bioamrywiaeth - mae'r Ymddiriedolaethau
Bywyd Gwyllt wedi chwarae rhan annatod yn y broses o ddatblygu cynlluniau
gweithredu bioamrywiaeth â phartneriaid ar bob lefel
Parhawn i hybu'r
broses hon fel ffordd allweddol o warchod bioamrywiaeth ledled y DU.
|

|
   |
|

|
Ymddiriedolaeth
Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru
|
Mae angen eich cefnogaeth
arnom - ymunwch â ni nawr
Mae Ymddiriedolaeth
Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru'n sefydliad o aelodau, ar agor i unrhyw
un sy'n poeni am gadwraeth bywyd gwyllt a diogelu cynefinoedd yr ardal.
Ei hamcanion yw:
Hybu
cadwraeth bywyd gwyllt yn Ne a Gorllewin Cymru
Cael tir lle bo bywyd gwyllt mewn perygl a'i reoli fel gwarchodfa
natur
Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o gadwraeth bywyd
gwyllt a chynnig cyngor i ffermwyr, awdurdodau lleol a pherchnogion
tir eraill
Darparu cyfleusterau i hybu mwynhau bywyd gwyllt yn ein gwarchodfeydd.
Yn ogystal â'r
wybodaeth bod eu haelodaeth yn helpu i hybu diogelwch bywyd gwyllt yn
eu hardal leol, mae aelodau'n cael 'Wildlife', cylchgrawn lliw gan ymddiriedolaethau
bywyd gwyllt De Cymru a 'Natural World', cylchgrawn ymddiriedolaethau
bywyd gwyllt y DU. Mae cyfle hefyd i gymryd rhan mewn ystod eang o ddigwyddiadau
a gweithgareddau ledled yr ardal.
Rheolwn fwy na 100
gwarchodfa natur ar draws pedair sir, mae llawer ohonynt ym Mhen-y-bont
ar Ogwr a'r cylch. Mae ein swyddfa Pen-y-bont ar Ogwr yng Ngwarchodfa
Natur Parc Slip, Tondu, Pen-y-bont ar Ogwr - dewch i'n gweld ni.
|

|
   |
|

|
Ymddiriedolaeth
Cadw Ystlumod
|
Yr Ymddiriedolaeth
Cadw Ystlumod (YCY) yw'r unig gorff sy'n hollol ymroddedig i gadw ystlumod
a'u cynefinoedd yn y DU ac yn gweithio i alluogi pobl ac ystlumod i
fyw gyda'i gilydd.
Mae YCY yn gweithio
i gadw a gwella poblogaethau cynaliadwy ac amrywiaeth o ystlumod a chadw
eu cynefinoedd i bawb eu mwynhau. Yn holl feysydd ei waith, bydd YCY
yn dysgu a chynnwys pobl yn rhyfeddod byd yr ystlumod a'u cadwraeth.
Mae'r Ymddiriedolaeth
Cadw Ystlumod yn helpu ystlumod drwy:
ymgyrchu i gadw ystlumod - galluogi gweithredu lleol drwy rwydwaith
cenedlaethol o wirfoddolwyr
annog cefnogaeth am ecolog ystlumod a monitro poblogaethau ystlumod
gweithredu fel partner arweiniol ar gyfer y pedwar cynllun gweithredu
bioamrywiaeth ystlumod cenedlaethol
addysgu a chefnogi pobl sy'n darganfod ystlumod yn eu heiddo
annog pawb i werthfawrogi a mwynhau ystlumod
Mae gwybodaeth bellach
ar gael drwy ffonio'r Llinell Gymorth Genedlaethol ar 0845 1300 228
neu drwy fynd i wefan YCY www.bats.org.uk.
|

|
   |
|

|
Ymddiriedolaeth
Ddinesig Pen-y-bont ar Ogwr
|
Pwy
ydyn ni?
Ein nod yw monitro'r
hyn y mae eraill yn ei wneud i dref Pen-y-bont ar Ogwr a rhoi pwysau
ar y bobl iawn i adfer pethau sy'n mynd o le neu pan ystyriwn fod angen
mynd i gyfeiriad penodol. Ceisiwn amlygu'r hyn sydd gennym o werth yn
y dref a pheri i bobl feddwl a gweithredu, o bosibl.
I wneud hyn, rhaid i ni gael cefnogaeth ein haelodau. Po fwyaf a swnllyd
ein haelodau, y mwyaf tebygol y bydd y gallwn wneud rhywbeth. Ceisiwn
roi gwybod i aelodau'r hyn sy'n digwydd trwy ein newyddlen a gyhoeddir
2 neu 3 gwaith y flwyddyn a thrwy gynnal cyfarfodydd cymdeithasol a
chyffredinol mor aml â phosibl. Ar wahân i'rr cyfarfod blynyddol
cyffredinol ym mis Hydref, ceisiwn drefnu un neu ddau fore coffi, swper
aelodau ac un cyfarfod â siaradwr. Ein prif ddigwyddiad arall
yw cymryd rhan yn Niwrnod Treftadaeth Ewrop ym mis Medi a gydlynir gan
Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru lle trefnwn agor adeilad nad yw'n hygyrch
fel arfer.
Gwneir y rhan fwyaf o'r gwaith gan aelodau pwyllgor sy'n cyfarfod unwaith
y mis. Fodd bynnag, mae aelodau'n monitro ceisiadau cynllunio bob wythnos
ac yn mynd i gyfarfodydd gyda swyddogion y Cyngor, ayb.
Rydym yn rhan o
Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru ac Ymddiriedolaeth Ddinesig y DU. Cawn
ein cynrychioli ar Is-Bwyllgor Adfywio'r Cyngor a'r Siambr Fasnach.
Gwobrau
Er ei fod yn haws
codi mater pan fo rhywun yn ei feirniadu, rydym hefyd yn mwynhau rhoi
clod. Rydym yn cynnig gwobrau (plac neu dystysgrif) i bobl a chyrff
sydd wedi gwneud rhywbeth gwerthfawr i wella'r dref.
|

|
   |
|

|
Ymgyrch
dros Ddiogelu Cymru Wledig
|
Mae'r Ymgyrch dros
Ddiogelu Cymru Wledig wedi bod yn weithredol yng Nghymru ers mwy na
70 mlynedd. Mae'n credu bod mannau agored a phrydferthwch cefn gwlad
Cymru'n ategu at bopeth arall, yr economi, cymunedau a diwylliant. Mae'r
sefydliad yn ymgyrchu i ddiogelu a gwella tirlun Cymru, gan gynnwys
cadw pensaernïaeth frodorol, yn enwedig adeiladau fferm sy'n bwysig
yn eu cyd-destun tirluniol. Anelwn at addysgu pobl am holl agweddau
diogelu tirlun a dylanwadu barnau ac agweddau i gefnogi'r nodau hyn.
Croesawn aelodau
newydd i'n cangen a byddai ein Hysgrifennydd Mr R J Simpson (Ffôn:
02920 891165) yn falch o roi gwybodaeth bellach i unrhyw ddarpar aelodau.
|

|
   |
|

|
Yr
Ymddiriedolaeth Genedlaethol
|
Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth
Genedlaethol yn 1895 i gadw tir a daliadau o ddiddordeb prydferthwch
neu wyddonol er budd y genedl ac oherwydd nodweddion naturiol a bywyd
anifeiliaid a bywyd gwyllt. Dyma'r sefydliad cyntaf ym Mhrydain â
gofyn statudol i gadw bywyd gwyllt a nodweddion geolegol yng nghefn
gwlad. Ar hyn o bryd, mae'r Ymddiriedolaeth yn diogelu ystad o fwy na
272,000 hectar o dir y mae 28% ohono'n safleoedd penodedig. Dan ddiogelwch
yr Ymddiriedoaleth, mae 475 safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yng
Nghymru a Lloegr, 12 yng Ngogledd Iwerddon, 32 gwarchodfa natur genedlaethol,
dwy warchodfa forol a mwy na 60 gwarchodfa natur o bwysigrwydd lleol.
Mae 20% o safleoedd Ramsar y DU (gwlyptir o bwysigrwydd rhyngwladol)
yn cynnwys tir yr Ymddiriedolaeth.
Yn y blynyddoedd
diwethaf, mae'r Ymddiriedolaeth wedi dod yn fwyfwy ymwybodol na ellir
cynnal buddiannau cadwraeth yn wyneb dirywio'r amgylchedd naturiol a
dynol ehangach. Mae'r Ymddiriedolaeth yn ymroddedig i ddylanwadu ar
reolaeth yr amgylchedd cyfan, drwy ddatblygu arfer gorau ar ei safleoedd
ei hun a thrwy hybu atebion 'gwyrdd' i wleidyddion, ymarferwyr a'r cyhoedd.
Mae enghreifftiau o'i hegwyddorion amgylcheddol ar waith yn bodoli ar
sawl safle, gan gynnwys gwresogi daearwresol, ynni dwr, systemau carthffosiaeth
gwelyau cyrs a garddio heb fawn.
Gallwch gymryd rhan
yng ngwaith cadwraeth yr Ymddiriedolaeth drwy wirfoddoli naill ai'n
lleol neu ar wyliau gweithio (ewch i www.nationaltrust.org.uk/volunteering
neu ffoniwch Swyddog Cymuned a Gwirfoddoli Cymru ar 01492 860123).
Am wybodaeth bellach
ar gadwraeth natur ac arferion amgylcheddol yr Ymddiriedolaeth, ewch
i www.nationaltrust.org.uk/environment
|

|
   |
|

|
Ysgolion
Amgylcheddol
|
Cynllun Gwobrau
Ysgolion Amgylcheddol
System rheolaeth amgylcheddol ar gyfer ysgolion cyfan sy'n hybu ymwybyddiaeth
amgylcheddol, dinasyddiaeth a datblygiad cynaliadwy.
Mae cofrestru a
holl ddeunyddiau am ddim i ysgolion ac ar gael yn Gymraeg neu Saesneg.
Wedi ei fodelu ar
y system ISO 14001, disgyblion sy'n chwarae'r prif rôl wrth wneud
penderfyniadau a gweithredu ar ran yr ysgol a gwella'r gymuned. Datblygu
Tiroedd Ysgol yw un o'r 7 thema bosibl. Mae materion cynaladwyedd eraill
yn cynnwys sbwriel, gwastraff, ynni, cludiant, byw'n iach a dwr. Mae'r
rhaglen yn drefnedig iawn ac yn hybu partneriaeth ag asiantaethau allanol
ar gyfer sefyllfa a blaenoriaethau penodol pob ysgol.
Gweithia disgyblion
tuag at y wobr Baner Werdd Ewropeaidd a asesir bob dwy flynedd. Mae
mwy na 500 ysgol wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen yng Nghymru ac mae
oddeutu 65 yn chwifio'r faner.
|

|
 |
| CYFEIRIADUR
GWYRDD PEN - Y-BONT AR OGWR -
Bwrdeistref Sirol
Pen-y-bont ar Ogwr |