Disgrifiwyd SAVE
fel y grwp cadwraeth mwyaf dylanwadol ers i William Morris sefydlu'r
Gymdeithas dros Ddiogelu Hen Adeiladau dros ganrif yn ôl. Cr‘wyd
ef yn 1975 - Blwyddyn Treftadaeth Bensaernïol Ewrop - gan garfan
o ohebwyr, haneswyr, penseiri a chynllunwyr i ymgyrchu'n gyhoeddus dros
adeiladau hanesyddol mewn perygl. Drwy ddatganiadau i'r wasg, adroddiadau
ac arddangosfeydd, mae SAVE wedi pledio achos hen gartrefi gwledig,
eglwysi a chapeli gwag, melinau a storfeydd nas defnyddir, strydoedd
a chymdogaethau mallus, bythynnod a neuaddau tref, gorsafoedd trên,
ysbytai, adeiladau milwrol a gwallgofdai.
O'r cychwyn, mae
SAVE wedi pwysleisio cadw ac ailddefnyddio adeiladau ac ardaloedd hanesyddol.
Mewn sawl achos, mae SAVE wedi paratoi defnydd ei hun ar gyfer adeiladau
mewn perygl. Ers 1988, mae wedi cydosod cofrestr o adeiladau mewn perygl
sy'n wag. Ceisia nodi perchnogion a/neu ddefnyddiau newydd a fydd yn
sicrhau dyfodol yr adeiladau. Mae SAVE yn gweithio ar y materion ehangach
o bolisi cadwraeth hefyd.
Gallwch gefnogi
gwaith SAVE drwy ddod yn gyfaill a gwneud cyfraniad ariannol uniongyrchol
i'n gwaith - awgrymwn fod cyfeillion yn cyfrannu lleiafswm o £15 y flwyddyn.
Mae hyn yn rhoi gostyngiad i chi o 20% ar gyhoeddiadau a Friend's Newsletter
ddwywaith y flwyddyn.