Cyfeirlyfr

a

b

c

ch

d

dd

e

f

ff

g

ng

h

i

l

ll

m

n

o

p

ph

r

rh

s

t

th

u

w

y

cc

englishcontentlisttop

line

RTPI

Beth yw'r RTPI?
Bodola'r RTPI i symud gwyddoniaeth a chelfyddyd cynllunio tref yn ei flaen er budd y cyhoedd. Mae cynllunio tref yn cynnwys llawer mwy na delio â cheisiadau cynllunio, gyda gwaith ar gynllunio dyfodol ein trefi a dinasoedd a mentrau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eraill.

Mae'r RTPI yn gorff aelodaeth ac yn elusen gofrestredig. Mae'r rhan fwyaf o'i aelodau'n gynllunwyr proffesiynol cymwysedig. Mae dau o bob tri'n gweithio fel swyddogion cynllunio cynghorau lleol. Mae eraill yn gweithio ar ran llywodraeth ganolog, datblygwyr eiddo a chyrff eraill â daliadau tir sylweddol, neu fel athrawon ac ymchwilwyr.

Darpara'r RTPI gymorth uniongyrchol i aelodau'r cyhoedd drwy:
• gyhoeddiadau'n esbonio sut mae'r system gynllunio'n gweithio a sut i'w defnyddio;
• rhwydwaith Cymorth Cynllunio cenedlaethol sy'n cynnig cyngor cynllunio am ddim i unigolion a grwpiau
• rhaglen addysg amgylcheddol, yn gweithio gydag athrawon, plant ysgol a grwpiau cymunedol lleol
• cynlluniau gwobrwyo i nodi a hybu'r cynllunio tref gorau

Yma yng Nghymru, mae eich cangen RTPI leol yn:
• cynnal digwyddiadau ar bynciau o ddiddordeb cynllunio ledled Cymru
• cyhoeddi newyddlen bob tri mis
cynnal cysylltiadau â chyrff proffesiynol eraill yng Nghymru
• darparu cefnogaeth ariannol ac yn hybu gwaith Cymorth Cynllunio Cymru
• datblygu deunydd addysgol i'w ddefnyddio mewn ysgolion a cholegau lleol
• cynnal gwobr flynyddol ar lwyddiant cynllunio

contactdetails

englishcontentlisttop

line

RSPB

Mae'r RSPB yn gweithio tuag at amgylchedd iach yn llawn adar a bywyd gwyllt. Mae'n dibynnu ar gefnogaeth a haelioni eraill i wneud gwahaniaeth. Mae'r problemau sy'n wynebu adar gwyllt a'r amgylchedd yn fawr a chymhleth. I gael yr effaith fwyaf, canolbwyntiwn ar rywogaethau, cynefinoedd a safleoedd o flaenoriaeth a gosodwn nodau cadwraeth clir ar gyfer pob un.

Ymchwil
• Ategir at waith yr RSPB gan ymchwil ac archwiliadau y gwneir y rhan fwyaf ohono gan ein gwyddonwyr a'n harbenigwyr ni

Polisi
• Amddiffynnwn weithredu deddfau a pholisïau a gynlluniwyd i ddiogelu bywyd gwyllt

Ein haelodau
• Mae gennym fwy na miliwn o aelodau. Maent yn cynnwys archwilwyr bywyd gwyllt, plant a grwp Phoenix ar gyfer arddegwyr Gwirfoddolwyr
• Bob blwyddyn, mae mwy na 9,000 o wirfoddolwyr yn helpu'r RSPB, yn rhoi 650,000 awr o'u hamser

Addysg
• Gweithiwn i annog gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o'r amgylchedd drwy sicrhau y cynhwysir ef yn y Cwricwlwm Cenedlaethol i ysgolion. Darparwn adnoddau ar gyfer astudiaethau dosbarth plant hefyd.

contactdetails

line
CYFEIRIADUR GWYRDD PEN - Y-BONT AR OGWR - Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr