Cyfeirlyfr

a

b

c

ch

d

dd

e

f

ff

g

ng

h

i

l

ll

m

n

o

p

ph

r

rh

s

t

th

u

w

y

cc

englishcontentlisttop

line

Plantlife

Fel unig elusen aelodaeth genedlaethol Prydain sy'n ymroddedig i warchod pob math o fywyd planhigion yn eu cynefin naturiol, mae Plantlife yn pledio achos planhigion gwyllt y wlad. Mae ganddi 12,000 aelod, mae'n berchen ar 22 gwarchodfa natur ac mae ganddi swyddfeydd yn Lloegr, yr Alban a Chymru. Mae Plantlife yn 'bartner arweiniol' ar gyfer 77 rhywogaeth planhigion mewn perygl dan Flaengaredd Bioamrywiaeth y Llywodraeth. Drwy ei rhaglen adfer rhywogaeth - "Back from the Brink" - mae Plantlife yn gweithredu cynlluniau gweithredu ar gyfer y planhigion hyn, drwy arolygu, ymchwilio, gweithredu ymarferol a chynghori, mewn partneriaeth â chwaraewyr allweddol eraill. Mae mwy na 300 o aelodau Plantlife - gwarcheidwaid blodau - yn cymryd rhan yn Back from the Brink fel gwirfoddolwyr. Mae Plantlife yn gweithio'n rhyngwladol hefyd er mwyn gweithredu'r Strategaeth Cadw Planhigion Fyd-Eang ac yn Ewrop i nodi'r ardaloedd planhigion pwysicaf.
I ymholi am aelodaeth, ffoniwch: 020 7808 0110 neu ewch i wefan Plantlife.

contactdetails

englishcontentlisttop

line

Prosiect Art Alert

Mae Art Alert yn gasgliad o artistiaid, cynllunwyr, athrawon, myfyrwyr ac eraill â diddordeb mewn celfyddyd a'r amgylchedd. Arbenigwn mewn:
• cynnal digwyddiadau celfyddydau â themâu amgylcheddol trwy ddefnyddio defnyddiau a ailddefnyddiwyd ac a ailgylchwyd
• digwyddiadau darganfod bywyd gwyllt
• diwrnodau hyfforddi rheolwyr/adeiladu tîm
• sesiynau hyfforddi ar gyfer athrawon, arweinwyr ieuenctid a grwpiau gwirfoddol

Dros y deng mlynedd ddiwethaf, rydym wedi gweithio gydag ystod eang o gleientiaid ac wedi darparu popeth o hyfforddiant rheoli i arddangosiadau celf rhyngweithiol mawr (a llawer mwy). Mae ein cleientiaid diweddar yn cynnwys: Cronfa Natur Fyd-Eang (WWF), Cymdeithas Frenhinol Diogelu Adar (RSPB), Cyngor Dinas Coventry, Cyngor Dinas a Sir Abertawe a Sefydliad Cadwraeth David Shepherd.

Mae maint a chyfansoddiad digwyddiad gan y tîm Art Alert yn amrywio'n fawr o un prosiect i'r llall gan fod y ddau'n cael eu harwain gan anghenion y cleient a natur y prosiect a'r gyllideb. Pan ddymuna cleient ddefnyddio Art Alert i ymdrin â phob elfen o arddangosiad, darparwn yr holl staff sydd eu hangen i gynnal y digwyddiad.

Bob amser yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â'r prosiect a bob amser yn hapus i roi cyngor am ddim - rydym yn grwp nid-er-elw ac ariannwn ein gwaith gwirfoddol drwy'r ffioedd y mae ein cleientiaid corfforedig a chyfundrefnol yn eu talu.

contactdetails

englishcontentlisttop

line

Prosiect Mamaliaid Môr Gwyr

Ffurfiwyd Prosiect Mamaliaid Môr Gwyr yn Ebrill 1999 i gefnogi ac estyn gwaith gwylwyr morfilod gwirfoddol a oedd wedi cofnodi symudiadau morfilod a dolffiniaid yn Ne Cymru ers canol y 1990au.

Mae ein gweithgareddau'n canolbwyntio ar addysg gyhoeddus ffurfiol ac anffurfiol, gan gynnwys ymweld ag ysgolion/grwpiau diddordeb arbennig a digwyddiadau fel teithiau cwch ac ar dir i wylio bywyd gwyllt. Yn ychwanegol, cefnogwn ymchwil, yn arbennig ymchwil sy'n cynnwys ymdrechion gwirfoddolwyr.

Mae'r prosiect yn benodol ymwneud â statws y forhwch harbwr (Phocoena phocoena). Ers Tachwedd 2002, rydym wedi cydlynu Prosiect Morhychod De Cymru, menter gyffrous newydd i gynyddu ein gwybodaeth o'r rhywogaeth hon sy'n flaenoriaeth yn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth: faint sy'n defnyddio ein harfordiroedd, ble a phryd maent yn bwydo, pa mor bell maent yn teithio, a ydynt yn bridio yma?

Mae aelodaeth yn agored ac am ddim i bawb. Gall unrhyw un sy'n cwblhau ffurflen "wedi gweld", sy'n cymryd rhan mewn gweithgaredd trefnedig neu sy'n gofyn am fod ar y rhestr bostio ddod yn aelod, os dymunant.

contactdetails

englishcontentlisttop

line

Prosiect Morhychod De Cymru

Sefydlwyd y prosiect â chymorth ariannol o gronfa CCGC (Menter Rhywogaeth) a chynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Castell Nedd Port Talbot, Abertawe a Chaerfyrddin.

Mae'r prosiect yn benodol ymwneud â statws y forhwch harbwr (Phocoena phocoena). Ers Tachwedd 2002, rydym wedi cydlynu Prosiect Morhychod De Cymru, menter gyffrous newydd i gynyddu ein gwybodaeth o'r rhywogaeth hon sy'n flaenoriaeth yn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth: faint sy'n defnyddio ein harfordiroedd, ble a phryd maent yn bwydo, pa mor bell maent yn teithio, a ydynt yn bridio yma?

Mae aelodaeth yn agored ac am ddim i bawb. Gall unrhyw un sy'n cwblhau ffurflen "wedi gweld", sy'n cymryd rhan mewn gweithgaredd trefnedig neu sy'n gofyn am fod ar y rhestr bostio ddod yn aelod, os dymunant.

contactdetails

line
CYFEIRIADUR GWYRDD PEN - Y-BONT AR OGWR - Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr