Cychwynnwyd Partneriaeth
Bioamrywiaeth Pen-y-bont ym mis Awst 1998 ac mae'n cynnwys ystod o gyrff
cadwraeth sy'n casglu data bywyd gwyllt ar gyfer ardal Bwrdeistref Sirol
Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r Bartneriaeth yn cael ei harwain gan bartneriaid
allweddol sy'n gyfrifol am weithredu'r Strategaeth Cefn Gwlad a Rhaglen
Weithredu Integredig Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cefnogir gwaith
y Bartneriaeth gan Grwp Ymgynghorol Bioamrywiaeth Morgannwg, fforwm
a sefydlwyd ym mis Gorffennaf 1997, ei gyfrifoldeb yw datblygu nodau
bioamrywiaeth a thargedau gweithredu ar gyfer hen ardal Sir Morgannwg
(y cyfeirir ati fel Is-Sir Watson 41 yn aml). Gwelwyd yr 'ymagwedd strategol'
hon fel rhywbeth call a hanfodol, o ystyried adnoddau cyfyng yr 8 awdurdod
lleol sy'n cwmpasu Morgannwg a chyrff statudol ac anstatudol yr hen
sir. Mae'r ymagwedd yn gyson â Cyfarwyddyd Cynllunio (Cymru):
Polisi Cynllunio sy'n pwysleisio nad yw materion gwarchod tirlun
a natur yn cael eu cyfyngu gan ffiniau gweinyddol ac y dylid ymdrin
â nhw'n strategol a'u trafod gyda'r awdurdodau cynllunio cyfagos.
Nod y Bartneriaeth
yw cynnal cyfanrwydd corfforol a biolegol adnodd bioamrywiaeth Bwrdeistref
Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn cyflwr sy'n gallu cefnogi ei hystod nodweddiadol
o gynefinoedd a rhywogaethau, gwella ei gallu i cefnogi'r cynefinoedd
a'r rhywogaethau hyn drwy reolaeth ac annog pobl i fwynhau bioamrywiaeth
er mwyn i genedlaeth heddiw ac yfory gael budd o'i fanteision economaidd
ac ansawdd amgylcheddol.
Mae'r Bartneriaeth
yn cynnwys:
PARTNERIAETH
BIOAMRYWIAETH PEN-Y-BONT AR OGWR