Agorwyd
Gardd Fotaneg Cymru ym mis Mai 2000. Wedi ei lleoli mewn parc a adferwyd
o'r deunawfed ganrif, anela'r ardd at gadw planhigion dan fygythiad,
hwyluso ymchwil i mewn i amrywiaeth planhigion a darparu profiad trawiadol
i ymwelwyr.
Prif
ganolbwynt yr ardd yw'r Ty Gwydr Mawr. Wedi ei gynllunio gan yr Arglwydd
Norman Foster a Phartneriaid, hwn yw'r ty gwydr mwyaf yn y byd. Mae'n
dal casgliad unigryw o blanhigion cyfandirol o bob rhan o'r byd. Mae
llawer o'r 1,000 rhywogaeth a gasglwyd yn wynebu dilead yn eu cynefinoedd
naturiol. Mae system rheoli hinsawdd soffistigedig yn creu amgylchedd
priodol a defnyddir rheolaeth fiolegol yn lle pla-laddwyr.
Mae
yna gyfleusterau addysgol, ymwelwyr a chynadledda helaeth ac arddangosiadau
planhigion gwych yng Ngardd Fotaneg Cymru. Tu allan i'r prif fan ymweld
mae ystad 400 erw a reolir yn organig gan Tir Gofal. Mae ganddi amrywiaeth
gyfoethog o gynefinoedd a bywyd gwyllt. Mae ymchwil wyddonol yn canolbwyntio
ar gadw planhigion Cymreig prin a dan fygythiad, megis cerddinen y Darren
Fach (Sorbus leyana), heboglys Eryri (Hieracium snowdoniense) a'r ganrhi
barhaol (Centaurium scilloides). dim ond 16 yn tyfu'n wyllt, Sorbus
leyana yw coeden brinaf Prydain
Cynhesir
y Ty Gwydr Mawr ac adeiladau eraill gan foiler bio-más, sy'n
llosgi pren lleol gwastraff. Cesglir dwr glaw o do'r ty gwydr i'w ddefnyddio
yn yr addurniadau dwr ac ar gyfer glanhau peiriannau a thynnu dwr. Ymdrinnir
â charthffrwd o'r toiledau gan blanhigion a bacteria yn 'Y Peiriant
Byw' cyn dychwelyd i system llynnoedd yr ardd.
Yn
2003, bydd y ganolfan ymchwil wyddonol newydd, yn cwmpasu deorydd bio-wyddoniaeth
a busnes amgylcheddol, yn agor. Y nod yw darparu cyngor technegol a
busnes i gwmnïau newydd i'w helpu i dyfu'n fusnesau dichonol ac
annibynnol o fewn tair blynedd.