Cyfeirlyfr

a

b

c

ch

d

dd

e

f

ff

g

ng

h

i

l

ll

m

n

o

p

ph

r

rh

s

t

th

u

w

y

cc
englishcontentlisttop

line

Llinell Gymorth Draenogod

Beth ydym yn ei wneud?
Rydym yn grwp o bobl sy'n gofalu am ddraenogod sâl, amddifad ac wedi eu hanafu. Ar ôl iddynt wella, rydym yn eu dychwelyd i'w cynefin.

Beth allwch chi ei wneud i helpu draenogod?
• Os ydych chi neu unrhyw un arall yn darganfod draenog mewn trafferth, ffoniwch y llinell gymorth draenogod
• Rhowch wybod i bawb a wyddoch amdanom ni rhag ofn iddynt ddod o hyd i ddraenog mewn trafferth
• Efallai gallech drefnu digwyddiad noddedig i helpu i godi arian ar gyfer y llinell gymorth y mae mawr ei angen arnom

Sut i ddysgu mwy am ddraenogod
• Gallwn ddod i siarad â'ch ysgol leol neu grwp ieuenctid. Ffoniwch y llinell gymorth i drefnu ymweliad
• Gallwn ddod i ddigwyddiad ysgol fel diwrnod agored neu ffair ysgol. Mae gennym fyrddau arddangos yn dangos ein gwaith ac efallai gallem ddod â draenog gyda ni
• Gallwn gynnig y gwasanaethau hyn dim ond os ydych yn byw gerllaw. Os ydych yn byw ymhellach i ffwrdd, efallai gallem awgrymu rhywun sy'n agosach
• Mae'r holl wasanaethau hyn am ddim er bod rhodd fach o fwyd cath neu gi'n cael ei gwerthfawrogi bob amser
• Bob mis Mai, cawn ddiwrnod agored yng Nghaerdydd
• Mae croeso i chi ddod iddo, felly ffoniwch y llinell gymorth draenogod i wybod pryd mae'r diwrnod agored nesaf

contactdetails

line

CYFEIRIADUR GWYRDD PEN - Y-BONT AR OGWR - Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr