Mae
Groundwork Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell Nedd Port Talbot yn
gwmni elusennol yn gweithio ar hyd dwy fwrdeistref sirol i gyflawni
adfywiad cynaliadwy. Mae gan yr ymddiriedolaeth bedair uned fusnes,
Adfywio Cymunedol, Ynni ac Atebion Amgylcheddol, Twristiaeth Werdd
a'r Farchnad Lafur Ganolig, sy'n creu buddion cymdeithasol, economaidd
ac amgylcheddol i bobl leol. Cynigiwn amrywiaeth o wasanaethau, gan
gynnwys annog cymunedau i gymryd rhan, codi arian, ymgynghoriaeth amgylcheddol,
gwasanaethau tirlunio a chyngor busnes amgylcheddol.
Adfywio
Cymunedol
Cynigia Canolfan BYWYD Betws gyfle i bobl leol o bob oed ddysgu a gwella
sgiliau cyfrifiadurol a gwella eu lles corfforol a meddyliol drwy gymryd
rhan mewn ystod o brosiectau amgylcheddol. Cynigia gymorth ymarferol
i grwpiau lleol sy'n gwneud prosiectau ymarferol, addysg amgylcheddol
a chyfleoedd celfyddyd a rhaglen ieuenctid arbennig.
Ynni ac Atebion Amgylcheddol
Cyngor ymarferol am ynni ac atebion ynni adnewyddadwy ochr yn ochr â
chyngor amgylcheddol i fusnesau bach. Mae gwasanaethau'n cynnwys Cymdeithas
Fusnes Pen-y-bont ar Ogwr, cyngor ar ddeddfwriaeth amgylcheddol, dechrau
busnes, cadwyni cyflenwi a systemau rheoli, gan gynnwys Green Dragon
ac ISO14001.
Twristiaeth
Werdd
Datblygu twristiaeth gynaliadwy drwy amrywiaeth o weithgareddau hamdden,
gan gynnwys llwybrau cerdded, beicio a marchogaeth diogel sy'n cysylltu
â'r Llwybr Celtaidd, gwella mynediad ar hawyliau tramwy cyhoeddus,
llwybrau ceffyl a llwybrau eraill i ffwrdd o'r ffyrdd ac adfywio safleoedd
treftadaeth a mannau eraill o ddiddordeb a phwysigrwydd lleol.
Marchnad
Lafur Ganolig
Cyflogaeth tymor penodol i bobl hirdymor ddiwaith i adeiladu hyder a
darparu profiad priodol i'w helpu i ddarganfod gwaith. Mae'r rhai dan
hyfforddiant yn cael cefnogaeth a chyfarwyddyd, cyfle i hyfforddi a
chyngor gyrfa ac amrywiaeth o brofiad gwaith ymarferol.