Mae
Froglife yn ymddiriedolaeth elusennol yn ymwneud â gwarchod a
hybu amffibiaid ac ymlusgiaid brodorol. Sefydlwyd ni yn 1989 a gweithiwn
i warchod rhai o'n rhywogaethau sydd wedi eu hesgeuluso fwyaf - brogaod,
llyffantod, madfallod dwr, madfallod a nadredd.
Mae
Froglife yn gorff bach a gynhelir gan wirfoddolwyr a staff hanfodol,
â chostau isel iawn, sy'n gadael digon o arian ar gyfer y gwaith
cadwraeth. Mae Froglife yn rhedeg gwasanaeth ymholi cynhwysfawr sy'n
gwasanaethu miloedd o geisiadau am wybodaeth bob blwyddyn. Ynghyd â
darparu cyngor ar lafar, anfonwn daflenni ffeithiau am bris isel neu
am ddim a rhoddwn gefnogaeth dechnegol i wirfoddolwyr sy'n helpu i warchod
cynefinoedd a rhywogaethau.
Mae
Cydlynydd Cadw'r Fadfall Ddwr Fawr Gribog Froglife yn gweithio i gyflawni'r
camau gweithredu yng nghynllun gweithredu madfallod dwr mawr cribog
y DU drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor am arolygon, rheoli cynefinoedd,
cymorth grant, deddfwriaeth a pholisïau.