|

|
|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|

|
| cc |
|

|
   |
|

|
Clwb
Adar Morgannwg
|
Nod Clwb Adar Morgannwg
yw astudio a gwarchod bywyd adar yn Nwyrain Morgannwg, De Cymru. Mae'r
aelodaeth yn amrywio o ddechreuwyr i'r rhai sy'n broffesiynol gysylltiedig
â chadwraeth. Ein diddordeb cyffredin yw mwyhau adar.
Mae'r clwb yn cynnal
rhaglen lawn o ddigwyddiadau, gyda chyfarfodydd dan do ar ystod eang
o bynciau a chyfarfodydd awyr agored a arweinir gan rai o'n gwylwyr
adar mwyaf profiadol.
Mae aelodau'r clwb
yn cael newyddlen bob tri mis, sy'n rhoi'r newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf.
Bob blwyddyn, cynhyrchwn yr Adroddiad Adar Dwyrain Morgannwg cynhwysfawr,
am ddim i'n haelodau, ar statws adar yn y rhanbarth. Mae gwylwyr ledled
yr ardal yn cyflwyno cofnodion gwylio. Mae'r rhain yn cael eu ffeilio
ac maent yn darparu cronfa ddata werthfawr iawn. Yn ychwanegol, gweithredwn
linell ffôn gwybodaeth sy'n dweud wrth aelodau beth sydd 'o gwmpas'
ac mae gennym ein gwefan ein hunain, mewn partneriaeth â Chymdeithas
Adareg Gwyr, sef www.glamorganbirds.org.uk
Dilynwch y cyswllt i Glwb Adar Morgannwg ar y dudalen gartref. Mae gan
y safle dudalen am yr adar a welwyd yn ddiweddar.
Rydym yn garfan
gyfeillgar a chroesawgar - felly, beth bynnag eich gwybodaeth - os hoffech
gymryd rhan yn ein gweithgareddau, cysylltwch â ni i wybod mwy.
|

|
   |
|

|
Comisiwn
Coedwigaeth
|
Comisiwn Coedwigaeth
Cymru yr adran coedwigaeth y Cynulliad Cenedlaethol ac mae'n hybu coedwigaeth
ledled y wlad. Mae coedwigoedd a choetiroedd yn cwmpasu mwy na 14 y
cant o dir Cymru (dros 700,000 erw) ac mae'r Comisiwn yn rheoli'r ystad
goedwig gyhoeddus - drwy ei asiantaeth, Menter Coedwigoedd.
Yn ychwanegol i
gynhyrchu pren, mae'r Comisiwn yn gosod esiampl o reolaeth gynaliadwy
yn ei goedwigoedd ei hun i wella cadwraeth, addysg, hamdden a buddion
cymunedol. Mae'n annog perchnogion coetir eraill i wneud yr un peth,
drwy grantiau, rheoleiddio, ymchwil a chyngor.
O fewn ein coedwigoedd
cenedlaethol, rheolwn safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, cynefinoedd
mewn perygl a hen gofebau.
Nodau'r Comisiwn
yw:
diogelu ein coedwigoedd a choetiroedd
estyn ardal ein coedwigoedd
gwella gwerth economaidd ein hadnoddau coedwigoedd
cadw a gwella bioamrywiaeth, tirlun a threftadaeth ddiwylliannol
ein coedwigoedd a choetiroedd
datblygu cyfle am hamdden o fewn coetiroedd
cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd a chyfraniad y gymuned mewn coedwigaeth
|

|
   |
|

|
Cyfeillion
Eglwysi Heb Gyfeillion
|
Sefydlwyd Cyfeillion
Eglwysi Heb Gyfeillion yn 1957 gan Gymro balch o'r enw Ivor Bulmer-Thomas
a bodola i achub eglwysi a chapeli o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol
a fygythir gan waith dymchwel, adfeilio neu drosiadau amhriodol.
Rydym yn berchen
neu'n prydlesu 32 eglwys wag y mae 18 ohonynt yng Nghymru. Roedd
pob un ohonynt yn wynebu dymchwel neu adfeilio cyn i ymyriad y Cyfeillion.
Rydym yn sefydliad
bron yn hollol wirfoddol, yn gweithio mewn partneriaeth (a rhannu swyddfa)
gyda'r Gymdeithas Hen Gofebau. Rydym yn rhedeg cynllun cyd-aelodaeth
gyda nhw hefyd. Yn ogystal, mae'r Cyfeillion yn ddiolchgar i bobl leol.
Mae rhai ohonynt yn trefnu grwpiau o 'gyfeillion lleol' sy'n gofalu
am yr adeiladau ar ein rhan ac yn gweithredu fel stiwardiaid ar gyfer
penwythnosau Diwrnod Agored Treftadaeth. Rydym yn cloi rhai o'n
heglwysi ond gallwch ymweld â nhw drwy drefniant a gallwn roi
manylion mynediad i chi.
Croesawn ddiddordeb
yn ein gwaith ac rydym yn arbennig o awyddus i feithrin cysylltiadau
lleol a gwella ein heffeithiolrwydd drwy gynyddu ein haelodaeth.
Mae'n hawdd ymuno â'r gymdeithas drwy gwblhau'r ffurflen gais
ar gael o'r swyddfa neu o'n gwefan. Pris aelodaeth safonol yw £18 rhesymol
y flwyddyn, ynghyd â phrisiau arbennig ar gyfer yr henoed a myfyrwyr.
|

|
   |
|

|
Cyflwyno
Gwybodaeth Treftadaeth
|
Dyma adnodd ar-lein
newydd sy'n dod â phobl allweddol, cynnyrch a gwybodaeth berthnasol
at ei gilydd sy'n ymwneud â chadwraeth adeiladau yn y DU - ymddiriedolaeth
elusennol a grëwyd i'n galluogi i ofalu am ein treftadaeth genedlaethol
yn well.
Mae cynnal, cadw
ac adfer casgliad cain y Deyrnas Unedig o adeiladau cyfnod, gerddi a
pharciau'n waith caled. Mae Heritage Information yn dod â phawb
at ei gilydd: crefftwyr medrus, contractwyr, arbenigwyr, ymgynghorwyr,
ffynonellau gwybodaeth arbenigol, cyrsiau academaidd a hyfforddiant,
cynnyrch, llyfrau, newyddion a swyddi. Darpara Heritage Information
- www.heritageinformation.org.uk - gyfoeth o wybodaeth: o gofrestr o
ymgynghorwyr, contractwyr a chrefftwyr i restrau cynhwysfawr o gynnyrch
sy'n ymwneud â chadwraeth adeiladau a chyflenwyr, cyrsiau, newyddion
a digwyddiadau. Os yw'n well ganddynt, gall defnyddwyr ffonio llinell
gymorth Heritage Information am yr un wybodaeth. Mae Heritage Information
yn cysylltu pobl â'i gilydd, yn gwneud gwybodaeth yn hawdd i'w
darganfod ac yn symleiddio'r broses o gadw, adfer a chynnal adeiladau
a adeiladwyd yn dda gan ein cyndeidiau. Ein nod yw 'peri i dreftadaeth
ddigwydd' drwy ddarparu gwasanaeth gwybodaeth a fydd yn arbed amser
ac atal y difrod a wneir i dirlun hanesyddol y DU. Mae holl adrannau
perthnasol y llywodraeth a chyrff cadwraeth yn cefnogi ein menter, gan
gynnwys English Heritage, yr Adran Masnach a Diwydiant, yr Ymddiriedolaeth
Genedlaethol, y Gronfa Lotri Treftadaeth, Ystad y Goron a'r Cyngor Gofalu
am Eglwysi.
|

|
   |
|

|
Cymdeithas
Cadwraeth Morfilod a Dolffiniaid
|
Yn y dechrau. Sefydlwyd
y Gymdeithas yn 1987 gan rai unigolion a oedd yn poeni am forfilod a
dolffiniaid ar draws y byd. Sylweddolasant nad oedd un grwp penodol
yn canolbwyntio ar y mamaliaid morol hyn a theimlasant fod angen cael
grwp fel hwn. O ganlyniad, mae'r Gymdeithas yn gweithio i ddiogelu pob
math o forfilod - un o'r ychydig yn y DU sy'n gwneud hynny.
NodauĠr Gymdeithas:
Lleihau a chael gwared ar y bygythiadau parhaol i forfilod a'u
cynefinoedd
Codi ymwybyddiaeth o forfilod ac addysgu pobl am yr angen i ymdrin
â'r bygythiadau i'w lles a'u goroesiad
Polisïau:
Ymgyrchoedd a Gwyddoniaeth - gweithio i atal dal morfilod, hela
masnachol, llygredd amgylcheddol y moroedd ac arferion pysgota sy'n
niweidio morfilod a dolffiniaid. Mae tîm yr ymgyrch yn delio â
llywodraethau, gwleidyddion ac yn cysylltu â grwpiau amgylcheddol
eraill yn y DU ac ar draws y byd sy'n gweithio tuag at yr un nod
Cadwraeth - ariannu cadwrwyr ac ymchwilwyr ar draws y byd sy'n
uniongyrchol casglu gwybodaeth am forfilod a dolffiniaid a'u cynefin
i'n helpu ni i'w deall a'r bygythiadau maent yn eu hwynebu. Mae'r Gymdeithas
yn ariannu prosiectau maes yn y DU (Yr Alban a Gorllewin Cymru) a chyn
belled â De America ac Asia
Y Gymdeithas heddiw:
Mae wedi tyfu ac mae ganddi ryw 30 o staff llawn amser yn y DU,
Yr Almaen ac UDA. Mae gennym fwy na 60,000 o gefnogwyr
thri chynllun aelodaeth gwahanol, gallwch ymuno a siopa ar-lein
Mae
gennym wefan llawn ysbrydoliaeth â llu o wybodaeth ddefnyddiol
am y Gymdeithas. Mae gennym wasanaeth diweddaru am ddim trwy ebost hefyd
|

|
   |
|

|
Cymdeithas
Cynffig
|
Ffurfiwyd y Gymdeithas
yn 1989 ac mae ganddi oddeutu 120 aelod. Ei nodau yw annog astudiaeth
hanes a hanes naturiol yr ardal. Cynhelir cyfarfodydd bob mis yn y Ganolfan
Bywyd ym Mhîl. Trefnir araith ar ryw agwedd berthnasol o hanes
neu hanes naturiol. Yn ychwanegol, trefnir tripiau a theithiau cerdded
i sawl lleoliad o ddiddordeb.
Mae'r Gymdeithas
yn cyhoeddi newyddlen sawl gwaith y flwyddyn ac, o bryd i'w gilydd,
monograffau ar sawl agwedd o hanes lleol. Ar hyn o bryd, mae cloddio
archeolegol yn digwydd ger safle tref ganoloesol Cynffig ac mae prosiectau
hanes lleol eraill ar y gweill. Mae'r Gymdeithas yn bwrw ati i adeiladu
archif o ddeunyddiau sy'n berthnasol i hanes yr ardal, sydd ar gael
i aelodau gyfeirio atynt.
Mae pentref presennol
Cynffig yn dyddio o'r 17eg ganrif ond mae ei gwreiddiau'n dyddio nôl
i'r 12fed ganrif o leiaf pan adeiladwyd castell gerllaw gan y Normaniaid.
Tyfodd tref sylweddol o gwmpas y castell a ffynnodd tan y 15fed ganrif
pan achosodd y llif parhaol o dywod i'r dref gael ei gadael. Gallwch
gael mwy o wybodaeth am yr ardal a'r Gymdeithas ar www.kenfigsociety.supanet.com.
Bydd aelodau o'r
Gymdeithas yn falch o ateb ymholiadau rhesymol am hanes yr ardal. Anfonwch
ebost at terry.robbins@virgin.net
|

|
   |
|

|
Cymdeithas
Ecolegol Prydain
|
Mae Cymdeithas Ecolegol
Prydain yn gymdeithas ddysg, yn elusen gofrestredig ac yn gwmni a gyfyngir
gan warant. Wedi ei sefydlu yn 1913 gan academyddion i hybu a meithrin
yr astudiaeth o ecoleg, mae gan y Gymdeithas oddeutu 5,000 aelod ledled
y byd. Ei gweithgareddau craidd yw cyhoeddi canlyniadau ymchwil ecolegol,
datblygu cyfarfodydd gwyddonol a hybu ymwybyddiaeth ecolegol drwy addysg.
Amcanion y Gymdeithas:
Symud gwyddoniaeth ecoleg yn ei blaen a'i chefnogi a chyhoeddi canlyniad
ymchwil, er mwyn arwain gwybodaeth ac addysg aĠr defnydd ohonynt.
Cyfloga'r Gymdeithas
4 staff llawn amser a 2 rhan-amser yn ei swyddfa yn Llundain. Yn ogystal,
darperir cefnogaeth ariannol ar gyfer prifysgolion ac athrofeydd o gwmpas
y Deyrnas Unedig. Ategir at waith y Gymdeithas gan ymdrechion swyddogion
ac aelodau pwyllgor nad ydynt yn cael eu talu sy'n penderfynu ar bolisïau
ac yn symud prosiectau yn eu blaen. Mae'r Gymdeithas yn cyhoeddi dau
gylchgrawn ag enw rhyngwladol bob blwyddyn ac mae'n trefnu o leiaf dwy
gynhadledd fawr y flwyddyn, yn ogystal â nifer o gyfarfodydd llai.
Mae hefyd yn cychwyn ystod eang o weithgareddau i hybu'r ymwybyddiaeth
o ecoleg ymysg y cyhoedd ac ar lefel datblygwyr polisi. Yn ychwanegol
i ddatblygu ecoleg yn y system addysg, darpara gefnogaeth ariannol ar
gyfer prosiectau ecolegol cymeradwyedig. Ariannir y Gymdeithas drwy
incwm o danysgrifiadau, cyhoeddiadau a'i phortffolio buddsoddiadau.
|

|
   |
|

|
Cymdeithas
Frenhinol Penseiri yng Nghymru
|
Cymdeithas Frenhinol
Penseiri yng Nghymru yw rhanbarth Gymreig Sefydliad Brenhinol Penseiri
Prydeinig a chynrychiolia'r holl benseiri siartredig sy'n gweithio yng
Nghymru. Mae aelodau RIBA yn cymryd agwedd gyfrifol at ddatblygiad cynaliadwy
ac mae sawl cwmni yng Nghymru wedi arbenigo mewn datblygu dulliau dyfeisgar
o gynllunio'n gynaliadwy. Cynhaliwn sesiynau hyfforddi rheolaidd ar
gynlluniau ynni isel, sy'n agored i bawb.
Cred yr RSAW fod
gan gynllun da fuddion amgylcheddol a chymdeithasol go iawn, ynghyd
â manteision ariannol ac economaidd. Mae ein haelodau'n awyddus
i ddangos bod adeiladau a gynllunnir yn dda'n edrych yn well ac yn gweithio'n
well, yn para fwy ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i ansawdd bywyd.
Gall penseiri siartredig
gynghori ar brosiectau adeiladu a datblygu o bob maint a math. Hyfforddir
nhw i ddehongli anghenion cleientiaid, asesu potensial safle a gosod
a datblygu syniadau cynnar i gynlluniau terfynol.
Mae'r RSAW yn cynhyrchu
rhestr o gwmnïau penseiri ac yn cynnig gwasanaeth ymgynghorol am
ddim i'ch helpu i ddod o hyd i'r pensaer iawn i'ch prosiect chi.
|

|
   |
|

|
Cymdeithas
Fotanegol Ynysoedd Prydain
|
Mae Cymdeithas Fotanegol
Prydain ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb ym mlodau a phlanhigion
Prydain ac Iwerddon. Sefydlwyd y gymdeithas yn 1836 dan yr enw Cymdeithas
Fotanegol Llundain. O'i dyddiau cynharaf, mae wedi croesawu aelodau
proffesiynol ac amatur a hon yw'r sefydliad mwyaf a mwyaf gweithredol
sy'n ymroddedig i astudio botaneg Ynysoedd Prydain.
Cynhyrcha atlasau
cenedlaethol a sirol am ddosbarthiad planhigion. Mae'n cyhoeddi cylchgrawn
gwyddonol, Watsonia, ac mae'n cynnal cynadleddau ar fotaneg.
Mae aelodau'n derbyn
newyddlen dair gwaith y flwyddyn a gwahoddir nhw i ddefnyddio'n system
o gofnodwyr sirol a chyfeirwyr cenedlaethol a all helpu i adnabod planhigion.
Cynhelir cyfarfodydd maes ledled Prydain ac Iwerddon a thramor ar adegau.
Mae rhaglen addysg
a gefnogir gan y Gymdeithas yn anelu at ddod â hyfforddiant botanegol
o ansawdd uchel o fewn cyrraedd pawb, o fyfyrwyr Lefel A i gyrsiau datblygiad
proffesiynol ac ôl-raddedig. Mae'r Gymdeithas yn elusen (rhif
212560) ac fe'i rheolir gan gyngor o aelodau etholedig.
|

|
   |
|

|
Cymdeithas
Hanes Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cylch
|
Dathlodd Cymdeithas
Hanes Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cylch ei phen-blwydd yn 50 yn 2002.
Mae ganddi fwy na 100 aelod ac mae o leiaf 60 yn dod i gyfarfodydd misol
y Gymdeithas pan fo siaradwyr gwadd yn dod i siarad ar bwnc penodol,
sydd â chysylltiad hanesyddol fel arfer.
Cynhelir y cyfarfodydd
yn neuadd Ysgol Gyfun Iau Brynteg am 7pm, drydydd dydd Mercher y mis
fel arfer rhwng mis Medi a mis Mawrth (ac eithrio mis Rhagfyr).
Cynhelir cinio blynyddol
y Gymdeithas ym mis Ebrill ac, ym misoedd Mai, Mehefin a Gorffennaf
bob blwyddyn, trefnir teithiau i leoedd o ddiddordeb hanesyddol.
Mae pob croeso i
aelodau newydd a gallwch gael gwybodaeth bellach drwy gysylltu â'r
swyddogion isod.
|

|
   |
|

|
Cymdeithas
Hanesyddol Cwm Llynfi
|
Wedi ei sefydlu
yn 1979 nod y Gymdeithas yw meithrin diddordeb mewn hanes lleol a Chymru
yn gyffredinol, drwy ymweliadau, trafodaethau a thrwy ddarparu cyfres
o ddarlithoedd addysgol amrywiol a diddorol a gyflwynir gan awdurdodau
hysbys. Tra nad yw natur yr areithiau'n colli golwg o'r nod hwn, mae
cyflwyniadau yn y blynyddoedd diwethaf wedi cwmpasu amserlen gronolegol
ehangach o Gymru yn yr Oes Gerrig i'r Hen Aifft, y Canoloesoedd, y Rhyfel
Mawr a phynciau yn yr 20fed ganrif.
Mae gan y Gymdeithas nifer o aelodau sy'n ymchwilio i hanes lleol a
gweithreda fel canolbwynt ar gyfer ymholiadau a geir o bob rhan o'r
wlad a thramor hyd yn oed. Mae gan y Gymdeithas oddeutu 60-70 aelod,
rhai ohonynt o'r dyddiau cynnar trwy'r Llywydd gwreiddiol, Brindley
Richards, ac yn ddiweddarach, Dr Lynn Jones, dau o haneswyr mwyaf enwog
yr ardal. Mae'r Gymdeithas yn cyfarfod yn Llyfrgell Sirol Maesteg nos
Fawrth gyntaf y mis o fis Hydref i fis Ebrill. Mae hefyd yn cynnal cinio
blynyddol a thaith haf i leoliadau dymunol â natur hanesyddol.
Cyhoeddwyd dau lyfryn gan y Gymdeithas ac, ers 1996, cyhoeddir newyddlen
ym mis Rhagfyr a mis Ebrill bob blwyddyn. Gallwch gael copïau o'r
llyfrgell.
Yn ddiweddar, penododd y Gymdeithas Mr John Lyons, un o haneswyr arweiniol
y cwm, fel ei llywydd newydd a chadeirir cyfarfodydd gan y Parch Robin
Williams sydd wedi dal y swydd ers sawl blwyddyn. Aelodau eraill y pwyllgor
yw'r Is-Gadeirydd Theresa Murphy, y Trysorydd Mair Dart, yr Ysgrifennydd
Bill Howells, Cyril Phillips, Margaret Goldsworthy a Barrie Evans. Mae
croeso bob amser i aelodau newydd a gallwch gael gwybodaeth bellach
gan yr ysgrifennydd.
|

|
   |
|

|
Cymdeithas
y Mamaliaid
|
Datganiad cennad
Cymdeithas y Mamaliaid
Mae Cymdeithas y Mamaliaid yn gweithio i ddiogelu mamaliaid Prydain,
atal dirywiad rhywogaethau dan fygythiad a chynghori ar yr holl faterion
sy'n effeithio ar famaliaid Prydain. Astudiwn famaliaid, nodwn y problemau
maent yn eu hwynebu a hybwn gadwraeth a pholisïau eraill sy'n seiliedig
ar wyddoniaeth gadarn.
Yn benodol, mae
Cymdeithas y Mamaliaid yn ceisio:
codi ymwybyddiaeth o famaliaid, eu hecoleg a'u hanghenion cadwraeth
arolygu mamaliaid Prydain a'u cynefin a nodi'r bygythiadau sy'n
eu hwynebu
cefnogi astudiaethau mamaliaid yn y DU a thramor
cefnogi cynlluniau cadwraeth sy'n seiliedig ar wyddoniaeth gadarn
darparu gwybodaeth gyfredol ar famaliaid drwy ein cyhoeddiadau
cynnwys pobl o bob oed yn ein hymdrechion i ddiogelu mamaliaid
monitro newidiadau mewn poblogaethau mamaliaid
Sut allwn helpu
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, gall y cyhoedd gysylltu â'r
Gwasanaeth Ymholi.
Mae gwybodaeth ar famaliaid Prydain ar gael ar ffurf taflenni
ffeithiau a chyhoeddiadau eraill. Mae'r taflenni ar ein gwefan.
Gallwn ddarparu manylion cyswllt ar gyfer grwpiau lleol ac ymchwil
a wneir ar wahanol famaliaid ledled y wlad.
Ar gyfer pobl sydd
â diddordeb mewn adnabod mamaliaid Prydain, eu synau, eu holion,
ayb, gall ein prosiect 'Chwilio am Famaliaid' helpu. Am fwy o fanylion,
ffoniwch swyddfa'r Gymdeithas.
|

|
   |
|

|
Cymdeithas
y Cerddwyr
|
Cymdeithas y Cerddwyr
yw sefydliad mwayf Prydain yn gweithio ar ran cerddwyr, elusen gofrestredig
sydd wedi gweithio ers mwy na 65 blynedd i - ddiogelu rwydwaith unigryw
Prydain o lwybrau cyhoeddus - yn rhy aml, maent wedi eu rhwystro'n anghyfreithlon
ac â gormod o dyfiant. Gweithiwn gydag awdurdodau lleol i'w wneud
yn bleser cerdded ar eu hyd.
- darparwn wybodaeth i'ch helpu i gynllunio eich taith a'i mwynhau'n
ddiogel. Mae ein gwasanaeth gwybodaeth am ddim ac ar gael i bawb drwy
gyhoediadau, ymholiadau personol a gwefan llawn cysylltiadau.
- cynyddwn fynediad i gerddwyr - mae ein gwaith yn helpu i sefydlu hawliau
mynediad statudol i'n cefn gwlad.
- Diogelwn gefn gwlad rhag ddatblygiadau salw a llygredig fel bod cerddwyr
yn gallu mwynhau ei lonyddwch a'i brydferthwch. Hybwn gludiant cynaliadwy
a chynghorwn ar wasanaethau cludiant cyhoeddus i gerddwyr.
- Addysgwn y cyhoedd o'u hawliau a chyfrifoldebau a buddion iechyd ac
amgylcheddol cerdded fel bod pawb yn mwynhau ein treftadaeth wych. Mae
gennym fwy na 140,000 aelod ledled Lloegr, Yr Alban a Chymru a rhwydwaith
o 450 o grwpiau cerdded lleol. Dibynnwn ar danysgrifiadau i'n cylchgrawn
i ariannu ein gwaith: mae aelodau'n derbyn cylchgrawn blwyddyn llawn
ffeithiau, cylchgrawn chwarterol deniadol, aelodaeth o grwp cerdded
a mynediad i gannoedd o deithiau cerdded a arweinir gan arbenigwyr am
ddim bob wythos a gostyngiadau mewn siopau pethau awyr agored.
|

|
   |
|

|
Cymdeithas
Ymddiriedolaethau Cadwraeth y DU
|
Ffurfiwyd yr Ymddiriedolaeth,
sydd â 240 aelod ledled y Deyrnas Unedig, yn 1989 ar gais ei haelodau.
Cynrychiola farn ymddiriedolaethau cadw adeiladau cenedlaethol, cynigia
gefnogaeth a chyngor a darpara rwydwaith o wybodaeth, cyfarfodydd a
chynadleddau ar draws y DU.
Mae ymddiriedolaethau cadw adeiladau'n gyrff elusennol, gwirfoddol yn
aml, sy'n dod at ei gilydd i achub hen adeiladau gwag a rhoi bywyd newydd
a defnydd dilys iddynt. Cyflawnir y prosiectau, sy'n cynnwys eiddo wedi
eu rhestru neu sydd o fewn ardal gadwraeth yn aml, â chymorth
a chyngor CYC ar bopeth o gynlluniau busnes i ffynonellau ariannu.
Rhennir CYC yn naw rhanbarth. Mae gan bob un gynrychiolydd ardal sy'n
cynrychioli eu rhanbarth ar bwyllgor cenedlaethol. Trwy CYC, gall darpar
ymddiriedolaethau gysylltu â'u cynrychiolydd ardal, mynd i gyfarfodydd
rhanbarthol (a gynhelir ddwywaith y flwyddyn fel arfer) a chael cefnogaeth,
cymorth a chyngor ymddiriedolaethau lleol eraill. Cynhelir cynhadledd
flynyddol i archwilio materion perthnasol a seminarau lleol ychwanegol
i roi gwybod i aelodau am newidiadau mewn deddfwriaeth a darparu fforymau
i gyfnewid cyngor a syniadau.
Mae aelodaeth yn £50 y flwyddyn ac mae am ddim i ymddiriedolaethau a
gafodd statws elusennol llai na deuddeng mis yn ôl. Yn y pris
hwn, mae aelod yn cael copi am ddim o'r Nodiadau Cyfarwyddyd ar gyfer
Ymddiriedolaethau Cadw Adeiladau (£5 fel arfer), sef y canllaw mwyaf
cynhwysfawr ar gael ar sut i achub adfail a sicrhau y dychwelir ef i
fywyd defnyddiol a chynhyrchiol newydd.
|

|
   |
|

|
Cymdeithas
Ymddiriedolaeth Ddinesig Porthcawl
|
Ffurfiwyd Cymdeithas
Ymddiriedolaeth Ddinesig Porthcawl yn 1970 ac mae ganddi fwy na 650
aelod. Mae'n elusen gofrestredig ac wedi ei chofrestru gydag Ymddiriedolaeth
Ddinesig Cymru. Credir mai hi yw'r gymdeithas ddinesig fwyaf yng Nghymru.
Ers iddi ffurfio,
mae'r Gymdeithas wedi ymgyrchu'n ffyrnig ar nifer o faterion sy'n ymwneud
â gwarchod yr arfordir, cefn gwlad ac amgylchedd adeiledig Porthcawl.
Mae wedi gwneud cyfraniad positif i'r dref drwy blannu coed a gwrychoedd
sydd nawr yn ffurfio nodweddion dymunol ar gylchfannau Nottage a Danygraig
a mabwysiadodd Cyngor Bwrdeistref Ogwr ei gynllun ar gyfer ailadeiladu'r
promenâd Esplanade. Mae'r Gymdeithas yn arolygu pob cais cynllunio
ac yn ystyried y rhai hynny a fydd yn cael effaith ar gefn gwlad neu
ar ansawdd weledol y treflun a'r arfordir.
Rheolir y Gymdeithas
gan bwyllgor gweithredol gwirfoddol o bedwar swyddog a hyd at 16 aelod
sy'n cyfarfod bob mis. Cynhelir etholiadau i'r swyddi hyn yng Nghyfarfod
Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas.
|

|
   |
|

|
Cyngor
Archeoleg Prydain
|
Mae CAP Cymru'n
grwp cenedlaethol Cyngor Archeoleg Prydain yn cynrychioli diddordebau'r
amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Mae'n elusen addysgol sy'n hybu gwybodaeth,
yn gwerthfawrogi ac yn gofalu am yr amgylchedd hanesyddol ar gyfer cenedlaethau
nawr a'r dyfodol. Mae mwy na 500 corff treftadaeth ac oddeutu 10,000
o unigolion o bob oed yn tanysgrifio i'r sefydliad. Mae gan CAP Cymru
bron i 560 aelod (unigol a chyfundrefnol, tu mewn a thu allan i Gymru).
Mae ei 77 aelod cyfundrefnol yn cynrychioli cyrff cenedlaethol, rhanbarthol
a lleol sy'n ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol, yn cwmpasu cyrff
statudol, proffesiynol, academaidd, amgueddfeydd a'r sector gwirfoddol.
Mae ei 512 aelod unigol yn cynnwys archeolegwyr proffesiynol a di-broffesiynol
ag ystod eang o ddiddordebau a phrofiad ar draws y rhychwant o amgylchedd
hanesyddol, o'r oesoedd cynnar i'r cyfoes. Mae meysydd CAP Cymru'n cynnwys
y fframwaith cyfreithiol a gweinyddol ar gyfer archwilio a diogelu safleoedd
a thirluniau archeolegol o bob math a dyddiad, yn ogystal â nodweddion
arbennig amgylchedd hanesyddol Cymru a gwell gwerthfawrogiad o archeoleg
a'r amgylchedd hanesyddol ymysg y rhai sy'n byw, gweithio neu'n cymryd
gwyliau yng Nghymru. Mae ysgrifenyddiaeth ac aelodaeth CAP Cymru'n barod
i gynnig cyngor ar unrhyw un o'r pynciau hyn a gallwch gysylltu â
nhw drwy:
|

|
   |
|

|
Cyngor
Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
|
Cyfarwyddiaeth
Gwasanaethau Amgylcheddol a Chynllunio
Is-Adran Cadwraeth
a Pholisi Amgylcheddol
Materion
Cadwraeth, Adeiladau Hanesyddol a Rhestredig, Archeoleg - 643159
Rheoli Cefn Gwlad, Cadwraeth Natur, Ecoleg, Bioamrywiaeth, Cynllunio
Arfordirol - 643170/643160/643667
Mynediad i Gefn Gwlad - 643182
Agenda 21 Leol, Cynaladwyedd - 643179
Gweithredu
Prosiectau, Strategaethau Adfywio, Cynlluniau Gwelliannau Amgylcheddol,
Cynlluniau Tirlun, Llwybrau Cymunedol, Treftadaeth Ddiwydiannol, Adeiladau
Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth - 643163/643164
Grantiau Ardaloedd Gwella Masnachol a Diwydiannol, Grantiau Gwella
Tref - 643175
Grantiau Gwella Canol Tref Maesteg - 643669
Adran Cludiant
a Pheirianneg
Hawliau Tramwy - 642537
Adran Penseiri
a Thechnegol
Ailgylchu, Casglu a Chael Gwared ar Sbwriel - 643439
Cyfarwyddiaeth
Hamdden a Gwasanaethau Cymunedol
Parciau a Meysydd Chwarae - 642720
|

|
   |
|

|
Cyngor
Cefn Gwlad Cymru
|
Cyngor Cefn Gwlad
Cymru (CCGC) yw ymgynghorydd statudol y llywodraeth ar gynnal prydferthwch
naturiol a bywyd gwyllt a'r cyfle i fwynhau'r awyr agored yng Nghymru
wledig a'i dyfroedd mewnol. Gyda'n hasiantaethau cyfatebol, English
Nature a Scottish Natural Heritage, mae CCGC yn cyflawni ei gyfrifoldeb
statudol ar gyfer Prydain Fawr ac yn rhyngwladol drwy'r Cyd-Bwyllgor
Cadwraeth Natur.
Mae CCGC
yn helpu i gefnogi'r bobl sy'n byw ac yn rheoli cefn gwlad drwy'r gynllun
amaeth-amgylcheddol Tir Gofal.
Mae CCGC
yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth ariannol. Cynhyrcha nifer o
daflenni a phosteri ar faterion gwledig a bywyd gwyllt â chyhoeddiadau
newydd ar gael bob blwyddyn - mae llawer ar gael o'n gwefan.
|

|
 |
| CYFEIRIADUR
GWYRDD PEN - Y-BONT AR OGWR -
Bwrdeistref Sirol
Pen-y-bont ar Ogwr |