Mae'r Ganolfan Technoleg
Amgen yn ymwneud â chwilio am dechnolegau a ffyrdd o fyw sy'n
ecolegol gynaliadwy. Fel canolfan arddangos ac addysgu, ymchwilydd a
darparwr gwybodaeth, mae'r Ganolfan yn anelu at roi gwybodaeth a galluogi
pobl i leihau eu heffaith ar y Ddaear.
Fel canolfan-eco
orau Ewrop, mae CTA wedi cael enw fel elusen amgylchedd a arweinir gan
atebion. Wedi ei lleoli ar hen chwarel ar ymylon deheuol Parc Gwledig
Eryri yng Nghanolbarth Cymru, mae'r safle 40 erw'n darparu enghraifft
fyw a gweithredol o ddyfodol cynaliadwy. Yn gweithio mewn harmoni â
natur, mae CTA yn profi, byw ac arddangos ffynonellau ynni cynaliadwy,
cadw ynni, adeiladau amgylcheddol, tyfiant organig a systemau carthffosiaeth
amgen.
Mae CTA yn croesawu
70,000 o ymwelwyr y flwyddyn ac yn cyflogi 40 staff â chymwysterau
amgylcheddol gwych. Ers agor i'r cyhoedd yn 1975, mae ei gweithgareddau
wedi ehangu i gwmpasu amrywiaeth o wasanaethau arbenigol, gan gynnwys
rheoli canolfan ymwelwyr, darparu gwybodaeth ac ymgynghoriaeth, ymchwil
a dyfeisgarwch, rhaglenni addysg i ysgolion, prifysgolion a busnesau,
cyrsiau preswyl, cyhoeddiadau ac archebu post. Mae gan y Ganolfan ymagwedd
gyfannol at ei gwaith, yn cyfuno syniadau ac arfer yn ymwneud â
defnydd tir, lloches, cadw a defnyddio ynni, diet ac iechyd, rheoli
gwastraff ac ailgylchu. Trwy ei chymuned breswyl a threfniant gwaith,
mae'r Ganolfan yn ymroddedig i weithredu egwyddorion cydweithredol ac
arferion amgylcheddol gyraeddadwy.