Cyfeirlyfr

a

b

c

ch

d

dd

e

f

ff

g

ng

h

i

l

ll

m

n

o

p

ph

r

rh

s

t

th

u

w

y

cc
bwelsh englishcontentlisttop

line

BTCV

BTCV. Eich cyfle i newid y byd.

Os ydych rhwng 8 ac 80 oed ac yn poeni am yr amgylchedd, gallwch ymuno â ni yn BTCV!

Gwnewch waith cadwraeth rheolaidd lle rydych yn byw drwy ymuno ag un o grwpiau canol wythnos neu benwythnos BTCV. Mae gan y rhan fwyaf o 165 swyddfa BTCV grwpiau fel hyn. Mae'n gyfle i wneud peth gwaith cadwraeth ymarferol fel torri cloddiau, plannu coed neu greu gardd bywyd gwyllt!

Ewch ar un o'n gwyliau cadwraeth Prydeinig neu ryngwladol. O benwythnosau yn Bedfordshire i deithiau chwech wythnos i Grenada, gallwch ddiogelu tirluniau a chynefinoedd bywyd gwyllt yn y DU neu helpu cymunedau o gwmpas y byd i wella eu hamgylchedd.

Gym Gwyrdd BTCV - ar gyfer pobl y mae'n well ganddynt gael ymarfer corff drwy wneud rhywbeth amgylcheddol ddefnyddiol yn yr awyr iach yn hytrach na phowndio'u traed yn y ganolfan chwaraeon.

Cynigia BTCV gyrsiau hyfforddi cadwraeth a chynllun cefnogaeth i grwpiau cymunedol. Rydym yn rhedeg rhaglenni gwirfoddolwyr ar gyfer pobl 16 i 24 oed ac yn darparu hyfforddiant Bargen Newydd i bobl ddiwaith hirdymor.

Os hoffech gefnogi ni'n ariannol, gallwch ymuno â'n Clwb Cefnogwyr. Am £12 y flwyddyn, byddwn yn anfon ein cylchgrawn Conserve a manylion o gynigion arbennig atoch.

Am wybodaeth bellach, ffoniwch ein tîm cyfeillgar ar 01302 572200, ebostiwch ni (information@btcv.org.uk) neu ewch i www.btcv.org

 

contactdetails

line

CYFEIRIADUR GWYRDD PEN - Y-BONT AR OGWR - Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr