Prif
rôl yr Asiantaeth yw rheoleiddio ond mae gennym ddyletswyddau
i fonitro, rheoli a deall yr amgylchedd a'r prosesau sy'n effeithio
arno. Fodd bynnag, nid yw hyn yn derfynol ac mae gan gyrff eraill, megis
awdurdodau lleol a Chyngor Cefn Gwlad Cymru ddyletswyddau sy'n cwmpasu
rhai o'r meysydd hyn.
e.e. nid ydym yn uniongyrchol gyfrifol am ansawdd awyr o draffig y ffordd,
sbwriel, niwsans na materion iechyd amgylcheddol eraill. Mae gan awdurdodau
lleol gyfrifoldebau penodol hefyd am dir llygredig.
Mae CCGC yn gyfrifol am gadw ein treftadaeth naturiol, gwella
tirluniau ac annog mynediad i gefn gwlad.
Cynhyrcha'r
Asiantaeth gynlluniau ac arolygir y cynlluniau gweithredu sy'n rhan
ohonynt yn flynyddol. Mae'r dogfennau hyn yn annog cymunedau lleol i
fod yn rhan o faterion amgylcheddol a'r Asiantaeth i feithrin partneriaethau
a fydd yn galluogi darparu camau gweithredu. Bydd copïau o'r dogfennau
hyn ar ein gwefan, ynghyd â gwybodaeth am agweddau eraill o waith
yr Asiantaeth, gan gynnwys adnoddau addysgol a manylion cyhoeddiadau.
Dylid cyfeirio ymholiadau lleol at y cyswllt cwsmeriaid ar linell ymholiadau
cyffredinol yr Asiantaeth. Anogwn a gweithiwn mewn partneriaethau i
ddarparu gwelliannau amgylcheddol ond nid ydym yn rhoi grantiau.