Cefn
Gwlad

ARFORDIR TREFTADAETH MORGANNWG
Ffôn: +44(0) 1656 880157

Penodwyd Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn un o dri
arfordir treftadaeth peilot yn gynnar yn y 1970au ai nod yw cynnal cymeriad unigryw
y llain glan môr 14 milltir o hyd yma trwy reolaeth sensitif. Cliciwch yma i gael map.
Ymysg
amcanion Prosiect Arfordir Treftadaeth Morgannwg mae:-
- Cadwraeth:
- Cynnal yr amrywioldeb ecolegol ac amddiffyn yr ardal rhag gwasgedd
gormodol.
-
- Mwynhad:
- Darparu mynediad cyhoeddus a defnydd hamdden sydd yn ymatebol
ir amgylchedd.
-
- Cymuned:
- Rheoli adnodd yr arfordir er lles y ffermwyr; tirfeddiannwyr a
grwpiau cymuned lleol eraill.
-
- Ansawdd:
- Helpu i sicrhau fod ansawdd yr arfordir yn cael ei gynnal.
Mae Gwasanaeth Ceidwad proffesiynol yn cyflawnir amcanion
uchod ar y tir.

Y Ganolfan Arfordir Treftadaeth
Mae Canolfan Arfordir Treftadaeth Morgannwg
wedi ei leoli ym Mharc Dwn-rhefn, Southerndown. Mae yma siop fach a chanolfan wybodaeth ac
maen werth i unrhywun sydd am wybod mwy am yr arfordir alw heibio.
Am ragor o wybodaeth am unrhyw agwedd arall ar yr arfordir,
cysylltwch â:
Canolfan Arfordir Treftadaeth Morgannwg,
Parc Dwn-rhefn,
Southerndown,
Bro Morgannwg,
CF32 0RP
| Ffôn: |
+ 44 (0)1656 880157 |
| Ffacs: |
+ 44 (0)1656 880931 |
Er ei fod yn drawiadol ac yn hardd, mae yna beryglon di-rif
ar hyd yr arfordir: mae cwymp clogwyn yn beth cyffredin ac maen bosibl cael eich dal
gan y llanw ar lawer or traethau gan fod gan Fôr Hafren ystod llanw sydd yr ail
fwyaf yn y byd.
Maer arfordir yn arbennig oherwydd ei safle ar yr ymyl - ble maer
tir yn cwrdd âr môr.
Mae hyn yn creu cynefinoedd unigryw fel twyni tywod,
clogwyni, a thraethau creigiog a thywod. Mae ar lawer or ardaloedd yma angen
rheolaeth arbennig i gynnal eu nodweddion arbennig..
Caiff Prosiect Arfordir Treftadaeth Morgannwg ei noddi gan
Gyngor Bro Morgannwg a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Daw cymorth ariannol ychwanegol oddiwrth
Cymdeithas Cyfeillion yr Arfordir Treftadaeth, corff codi arian elusennol. |