Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643
Cyfnewid Testun:
18001 01656 643643
Fax: 01656 668126
Email: talktous@bridgend.gov.uk
Sign Video BSL Live

Oriau agor
Ddydd Llun i ddydd Iau 8.30am - 5.00pm
Ddydd Gwener 8.30am - 4.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Sut y bydd hyn yn effeithio ar fy ngofal a'm cymorth?

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gyfraith newydd a fydd yn rhoi llawer mwy o lais i chi o ran y gofal a'r cymorth a gewch.

I'ch cefnogi i wella eich llesiant, byddwch yn gwneud penderfyniadau am eich gofal mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol. I'ch helpu i wneud hynny, bydd gennych fynediad rhwydd at wybodaeth a chyngor am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal chi.

Bydd gan ofalwyr yr un hawliau â'r rhai y maent yn gofalu amdanynt o ran cael asesiadau am gymorth, a bydd gan fwy o bobl yr hawl i gael Taliadau Uniongyrchol.

Bydd proses asesu gofal a chymorth newydd yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i chi fel unigolyn. Bydd yn ystyried eich cryfderau personol a'r cymorth sydd ar gael i chi gan eich teulu, eich ffrindiau ac eraill yn y gymuned.

Bydd yr asesiad yn fwy syml a bydd modd i unigolyn ei gynnal ar ran amrywiaeth o sefydliadau.
 
Bydd mwy o wasanaethau er mwyn rhwystro problemau rhag gwaethygu, er mwyn i'r cymorth cywir fod ar gael pan mae ei angen arnoch chi.

Bydd pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag cam-drin neu esgeulustod hefyd yn cael eu cyflwyno.

Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn dod i rym ym mis Ebrill 2016. Byddwch yn dilyn y broses newydd yn eich asesiad nesaf.

Am ragor o wybodaeth am y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), cliciwch yma i fynd i wefan Llywodraeth Cymru, neu cliciwch yma i ddarllen rhestr o Gwestiynau Cyffredin ynglŷn â’r Ddeddf.

Yn dilyn gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fis Ebrill, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi llunio canllaw dwyieithog i helpu pobl hŷn i ddeall eu hawliau o dan y Ddeddf newydd.

Cliciwch yma am y canllaw 

Last Updated: 27/01/2017
Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0 Valid XHTML 1.0 Transitional Valid CSS! Link to Gov.uk - public services all in one place National Assembly for Wales Browsealoud