Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643
Cyfnewid Testun:
18001 01656 643643
Fax: 01656 668126
Email: talktous@bridgend.gov.uk
Sign Video BSL Live

Oriau agor
Ddydd Llun i ddydd Iau 8.30am - 5.00pm
Ddydd Gwener 8.30am - 4.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Y Gofrestr Etholiadol

Rheolir cofrestrau'n lleol gan swyddogion cofrestru. Gan ddefnyddio gwybodaeth a dderbynnir gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru'n cadw dwy gofrestr - y gofrestr etholiadol a'r gofrestr agored (a elwir hefyd y gofrestr olygedig).

Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol megis sicrhau mai pobl sy'n gymwys i bleidleisio'n unig sy'n gwneud hynny. Fe'i defnyddir at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith hefyd, megis canfod troseddau (e.e. twyll), cysylltu â phobl i drefnu gwasanaeth rheithgor a cheisiadau gwirio credyd.

Y Gofrestr Agored

Mae'r gofrestr agored yn ddetholiad o'r gofrestr etholiadol, ond ni chaiff ei defnyddio mewn etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, fe'i defnyddir gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad. Bydd eich enw a'ch cyfeiriad ar y gofrestr agored oni bai eich bod yn gofyn iddynt eu tynnu oddi arni. Nid yw tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio. Gallwch ofyn iddynt gael eu tynnu drwy gysylltu â staff cofrestru etholiadol eich cyngor lleol. Gallwch ddod o hyd i'w manylion drwy nodi eich côd post yn www.aboutmyvote.co.uk.

Sut rydw i'n ymuno neu'n gadael y gofrestr agored?

Os ydych yn cofrestru ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio, gallwch glicio ar y blwch gwirio os nad ydych am i'ch enw a'ch cyfeiriad fod ar y gofrestr agored.

Gallwch hefyd newid eich opsiynau eithrio unrhyw bryd drwy wneud cais i staff cofrestru etholiadol lleol gyda'ch enw llawn, eich cyfeiriad gan nodi a hoffech gael eich cynnwys ar neu eich eithrio o'r gofrestr agored.

Last Updated: 08/07/2016
Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0 Valid XHTML 1.0 Transitional Valid CSS! Link to Gov.uk - public services all in one place National Assembly for Wales Browsealoud