Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643
Cyfnewid Testun:
18001 01656 643643
Fax: 01656 668126
Email: talktous@bridgend.gov.uk
Sign Video BSL Live

Oriau agor
Ddydd Llun i ddydd Iau 8.30am - 5.00pm
Ddydd Gwener 8.30am - 4.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Rheoli Plâu – Nadroedd a Nadroedd Defaid

Adder

Grass Snake

Slow Worm

Gwiber

Nadroedd y glaswellt

Neidr Ddefaid

Sut maen nhw’n edrych?

Gall y wiber (Vipera berus) dyfu nes ei bod yn 80cm. Mae lliw’r neidr yn amrywio ac yn wahanol rhwng y ddau ryw. Fel arfer, llwyd yw’r lliw cefndir mewn gwrywod a brown mewn benywod. Mae gan nadroedd o’r ddau ryw batrwm igam-ogam du, trwchus sy’n rhedeg ar hyd y cefn i gyd.

Neidr y glaswellt (Natrix natrix) yw’r neidr fwyaf ym Mhrydain, ac mae’n tyfu i ryw 150cm. Mae ei lliw’n amrywio, ond mae fel arfer yn rhyw fath o wyrdd gyda barrau fertigol byr du ac/neu sbotiau’n rhedeg ar hyd ei hochrau ac weithiau ar hyd y cefn. Mae ganddi fel arfer goler felen, wen neu liw hufen y tu ôl i’r pen, gyda marciau duon ar ei hymyl tua’r rhan ôl.

Mae’r neidr ddefaid (Anguis fragilis) yn fadfall heb goesau sy’n cael ei chamadnabod yn aml fel neidr. Mae’n tyfu nes ei bod yn 40cm ac mae’n frown neu lwyd. Mae’r cennau’n fach a llyfn sy’n rhoi edrychiad metelig neu sgleiniog i nadroedd defaid. Mae gan fenywod a rhai ifanc ystlysau du neu dywyll a llinell ddu denau sy’n rhedeg ar hyd y cefn. Mae gan wrywod llawn dwf liw cefndir brown/llwyd mwy dwl ac maent fel arfer heb y marciau tywyllach. Mae gan rai gwrywod ychydig o farciau glas sy’n gallu bod yn eithaf amlwg.

Ble maen nhw’n byw?

Mae’r wiber i’w chael ledled y DU, yn fwyaf aml ar rostiroedd tywodlyd a llethrau glaswelltog garw ar bridd sy’n draenio’n rhydd.

Mae neidr y glaswellt i’w chael ledled y rhan fwyaf o Gymru a chanolbarth a de Lloegr. Mae’n tueddu i ffafrio cynefinoedd dyfrol (afonydd, camlesi, llynnoedd, pyllau a.y.b.). Gall pentyrrau compost mewn gerddi gael eu defnyddio fel safleoedd dodwy, sy’n gallu golygu y bydd tyrfa ohonynt yn ymddangos gyda’i gilydd pan fo’r epilion yn cyrraedd ar ddiwedd mis Awst ac ym mis Medi.

Mae nadroedd defaid yn gymharol gyffredin ledled Prydain ac maent i’w cael mewn amrywiaeth o gynefinoedd, yn enwedig mewn glaswelltiroedd a rhostiroedd. O’n holl ymlusgiaid brodorol dyma’r rhai mwyaf tebygol i gael eu gweld mewn gerddi a rhandiroedd. Er ei bod yn bosib sylwi arnynt yn symud o gwmpas ar ddiwrnodau mwyn, yn enwedig ar ôl glaw, mae nadroedd defaid yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser o dan y ddaear neu o dan wrthrychau sy’n gorwedd o amgylch yr ardd.

Beth maen nhw’n ei fwyta?

Mae’r wiber yn bwyta mamaliaid bychain yn bennaf. Mae neidr y glaswellt yn bwyta amffibiaid a physgod yn bennaf. Mae nadroedd defaid yn bwyta gwlithenni’n bennaf ac maent felly’n gyfaill i’r garddwr.

Statws Pla

Y wiber yw’r unig neidr wenwynig ym Mhrydain, ond gan nad yw’r gwenwyn ond wedi’i fwriadu i ladd anifeiliaid bychain megis llygod dŵr, nid yw’n arbennig o gryf. Er y dylid trin gwiberod â pharch bob amser, mae’r perygl o gael brathiad gan wiber yn aml yn cael ei orbwysleisio. Dim ond yn achlysurol y ceir gwiberod mewn gerddi oherwydd eu gofynion penodol wrth ddewis cynefin. Os cewch eich brathu, fe’ch cynghorir i gael triniaeth yn yr ysbyty. Mae’n annhebygol y byddai brathiad gan wiber yn effeithio’n ddifrifol ar gŵn a chathod, ond os byddwch yn amau bod eich anifail anwes wedi cael ei frathu, ewch ag ef at y milfeddyg i gael archwiliad.

Mae nadroedd y glaswellt a nadroedd defaid yn ddiniwed ac ni ddylent achosi unrhyw broblemau i bobl.

Rheoli

Caiff nadroedd i gyd eu diogelu gan y gyfraith rhag cael eu lladd neu eu hanafu dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Felly os byddwch yn dod ar draws neidr, peidiwch â’i niweidio. Os yw wedi mynd yn sownd neu wedi cael anaf, cysylltwch â’r RSPCA ar 08705555999.

Os ydych yn pryderu ynghylch nadroedd yn eich gardd mae nifer o bwyntiau i’w hystyried.

  • Nid yw nadroedd (na madfallod) yn fygythiad mawr neu o gwbl i bobl nac anifeiliaid anwes
  • Mae’n eithaf tebygol mai pasio trwy eich gardd y mae’r neidr wrth chwilio am fwyd, ac efallai na fyddwch yn ei gweld byth eto
  • Mae nadroedd fel arfer yn llithro i mewn i’r prysgwydd os yw rhywun yn mynd yn agos atynt; maen nhw’n eich ofni chi fwy nag yr ydych chi’n eu hofni nhw

Dan rai amgylchiadau gall fod yn angenrheidiol symud gwiberod o erddi, felly i gael mwy o fanylion cysylltwch â
Froglife ar 01733 558444 neu drwy’r e-bost ar info@froglife.org

 

Last Updated: 15/02/2017
Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0 Valid XHTML 1.0 Transitional Valid CSS! Link to Gov.uk - public services all in one place National Assembly for Wales Browsealoud