Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643
Cyfnewid Testun:
18001 01656 643643
Fax: 01656 668126
Email: talktous@bridgend.gov.uk
Sign Video BSL Live

Oriau agor
Ddydd Llun i ddydd Iau 8.30am - 5.00pm
Ddydd Gwener 8.30am - 4.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Ysbrydoli plant ysgol trwy roi cyfle iddynt weld tlysau golff hanesyddol

15 Mehefin 2017

Daeth bron i 1,000 o blant ysgol o ysgolion cynradd Corneli, Porthcawl, West Park a Mynydd Cynffig wyneb yn wyneb ag un o’r tlysau golff mwyaf hanesyddol yn ddiweddar cyn i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddod i sylw’r byd golffio unwaith eto.

Aethpwyd â’r tlysau ar daith o amgylch yr ysgolion lleol, cyn i 144 o chwaraewyr o 24 o wledydd gystadlu ym Mhencampwriaethau Amatur Agored Menywod Prydain am yr 114fed tro yng nghlwb Pyle and Kenfig yr wythnos hon (13 - 17 Mehefin), er mwyn ysbrydoli mwy o bobl ifanc i ddechrau chwarae’r gêm.

Profodd llawer o chwaraewyr gorau’r byd lwyddiant am y tro cyntaf trwy ennill Pencampwriaeth Amatur Agored Menywod Prydain gan gynnwys Anna Nordqvist, Georgia Hall, Carlota Ciganda a Catriona Matthew.

Bydd pencampwr eleni yn cael mynediad i Gystadleuaeth Agored Menywod UDA yn Trump National, New Jersey ym mis Gorffennaf a Chystadleuaeth Agored Menywod Prydain Ricoh yn Kingsbarns Golf Links, ger St Andrews, ym mis Awst.

Bydd mynediad a pharcio am ddim i bawb yng Nghlwb Golff Pyle and Kenfig ar gyfer Pencampwriaeth Amatur Agored Menywod Prydain, a cheir rhagor o wybodaeth yn www.randa.org

Yn ddiweddarach yn yr haf, 27 - 30 Gorffennaf, bydd digwyddiad golffio mwyaf y flwyddyn yng Nghymru yn digwydd yn agos iawn yng Nghlwb y Royal Porthcawl lle bydd rhai o chwaraewyr chwedlonol y gêm yn chwarae yn y Bencampwriaeth Agored Hŷn a gyflwynir gan Rolex. I gael tocynnau, ewch i www.senioropenchampionship.com neu ffoniwch 0800 023 2557.

Last Updated: 15/06/2017
Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0 Valid XHTML 1.0 Transitional Valid CSS! Link to Gov.uk - public services all in one place National Assembly for Wales Browsealoud