Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643
Cyfnewid Testun:
18001 01656 643643
Fax: 01656 668126
Email: talktous@bridgend.gov.uk
Sign Video BSL Live

Oriau agor
Ddydd Llun i ddydd Iau 8.30am - 5.00pm
Ddydd Gwener 8.30am - 4.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Gŵyl Street Roots yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr y penwythnos hwn

25 Mai 2017

Mae Gŵyl ‘Street Roots’ yn cael ei chynnal yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ar y penwythnos hwn, a fydd yn cynnwys amrywiaeth o synau a blasau o bob rhan o’r byd.

Bydd yr ŵyl rad ac am ddim yn cyflwyno cerddoriaeth fyw, bwyd y byd, marchnadoedd stryd, syrcas stryd, paredau, drymio a mwy i strydoedd canol y dref ddydd Sadwrn 27 Mai a dydd Sul 28 Mai rhwng 11am ac 8pm.

Ar y dydd Sadwrn, y bandiau a fydd yn perfformio bydd Yaaba Funk, The Blims, Evil Turkeys, Moonbirds a Lost Tuesday Society, a Legend Bob Marley, Regime, Junior Bill, Dope Biscuits a Sarasota fydd yn darparu sain adloniant dydd Sul.

Trefnwyd y digwyddiad gan y grŵp CF31 o fasnachwyr lleol gyda chymorth gan Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Meddai’r Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Bydd yr Ŵyl Street Roots yn ddigwyddiad i’r teulu cyfan a fydd yn cynnig amrywiaeth eang o adloniant ac yn rhoi cychwyn bywiog i wythnos llawn cyffro pan fyddwn hefyd croesawu Eisteddfod yr Urdd i Bencoed.”

Last Updated: 25/05/2017
Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0 Valid XHTML 1.0 Transitional Valid CSS! Link to Gov.uk - public services all in one place National Assembly for Wales Browsealoud