Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643
Cyfnewid Testun:
18001 01656 643643
Fax: 01656 668126
Email: talktous@bridgend.gov.uk
Sign Video BSL Live

Oriau agor
Ddydd Llun i ddydd Iau 8.30am - 5.00pm
Ddydd Gwener 8.30am - 4.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Ahoi! Ydych chi’n mynd i Ŵyl Haf Porthcawl? Wrth gwrs eich bod chi!

22 Gorfennaf 2017

Codwch yr hwyliau i fwynhau helfeydd trysor, cerddoriaeth fyw a thoreth o ddifyrrwch iach yng Ngŵyl Haf Porthcawl gyda thema môr-ladron ddydd Sadwrn 29 Gorffennaf (11am-5pm).

Bydd yr ŵyl flynyddol yn digwydd ar lan y môr, a bydd yn cynnwys reidiau a gweithgareddau i blant, stondinau, gweithdai barcud, chwilota am aur, a digon o fôr-ladron i greu anhrefn ym mhob rhan o’r dref.

Anogir y rhai sy’n mynd i’r ŵyl i wisgo fel môr-ladron i ychwanegu at yr awyrgylch, a bydd gwobrau am y gwisgoedd môr-ladron gorau!

Trefnir Gŵyl Haf Porthcawl gan Gyngor Tref Porthcawl mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr â Siambr Fasnach Porthcawl. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.promotingporthcawl.com

 

Last Updated: 24/07/2017
Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0 Valid XHTML 1.0 Transitional Valid CSS! Link to Gov.uk - public services all in one place National Assembly for Wales Browsealoud