Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Ffôn: 01656 643643
Cyfnewid Testun:
18001 01656 643643
Fax: 01656 668126
Email: talktous@bridgend.gov.uk
Sign Video BSL Live

Oriau agor
Ddydd Llun i ddydd Iau 8.30am - 5.00pm
Ddydd Gwener 8.30am - 4.30pm

Sut i dodd o hyd i ni

Camwch yn ôl i oes y Tuduriaid ar achlysur 500 tref Pen-y-bont ar Ogwr

13 Medi 2016

Gwrandewch bawb! Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn camu yn ôl 500 o flynyddoedd i oes y Tuduriaid ddydd Sadwrn 17 Medi i ddathlu pum canmlwyddiant rhoi’r siarter Marchnad Frenhinol i’r dref gan Frenin Harri VIII!

Bydd canol y dref yn cael ei weddnewid yn farchnad nodweddiadol o oes y Tuduriaid a bydd gweithdai gwneud saethau, crochenwaith, coginio, nyddu, gwehyddu, a gweithgareddau poblogaidd eraill o’r 16eg ganrif, yn ogystal ag adloniant traddodiadol gan gynnwys adrodd straeon, cerddoriaeth, heboga a champau gwamalwr y llys.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 10am a 5pm a bydd hefyd yn cynnwys ymweliad gan y Brenin Harri VIII ei hun, gydag un o’i chwe gwraig! Bydd ‘Gwrandawiad â’r Brenin’ pan fydd y cyhoedd yn cael holi’r Brenin, ac am 12pm cynhelir seremoni’r Siarter Farchnad pan fydd y Brenin yn cyflwyno’r ddogfen gyfreithiol i Faer Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Last Updated: 13/09/2016
Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0 Valid XHTML 1.0 Transitional Valid CSS! Link to Gov.uk - public services all in one place National Assembly for Wales Browsealoud